Trafod yr argyfwng ariannol

Andrew Davies AS

Andrew Davies AS

17 Hydref 2012

Bydd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, Andrew Davies AC, yn traddodi darlith wadd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar ddydd Iau 18 Hydref.

Dan y teitl "Cymru: Yr Argyfwng Ariannol a'r Ffordd Ymlaen", bydd Andrew Davies yn trafod sut mae'r argyfwng ariannol wedi effeithio ar economi Cymru a'r camau a gymerwyd gan y llywodraeth.

Bydd y ddarlith, sydd yn agored i bawb, yn cael ei chynnal  yn Medrus 3 (Penbryn) ac yn dechrau am 1.00yp.

Ganed Andrew Davies yn Y Bont-faen ym Mro Morgannwg a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanfair a Sant Ioan. Aeth ymlaen i fod yn bartner yn y busnes ffermio teuluol sydd wedi'i leoli ger y Bont-faen.

Mae’n gyn-gynrychiolydd dros Gymru ar Gyngor Cenedlaethol yr  Undeb Genedlaethol yr Amaethwyr (NFU), ac ef oedd Sgolor Rhydychen Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2002.

Ymunodd â Phlaid Geidwadol Cymru yn 1997 a safodd fel ymgeisydd Seneddol yng Ngorllewin Caerdydd yn 2001 ac ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 2005. Yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 cafodd ei ethol gan taw ef oedd yr ail ar restr ranbarthol y Ceidwadwyr yng Nghanol a De Cymru.

Mae’n briod â phedwar o blant, ac yn gyn-gadeirydd Creative Communities, sefydliad sy'n ceisio datblygu datblygiad cymunedol strwythurol.

Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fis Chwefror 2009-Tachwedd 2010 lle oedd lobïo ar faterion o ddarparu gwasanaethau strôc i hyrwyddo'r angen am gynllun canser cenedlaethol.

Gwasanaethodd hefyd fel Gweinidog yr Wrthblaid ar Addysg ac fel Gweinidog yr Wrthblaid ar Drafnidiaeth, ac ar hyn o bryd mae’n eistedd ar Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, iechyd a materion gwledig.

Ym mis Rhagfyr 2008 cafodd ei gydnabod yng Ngwobrau Gwleidydd y Flwyddyn yng Nghymru fel 'Aelod Cynulliad i’w Wylio'.

AU36012