Bywyd newydd i’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg.

Yr Hen Goleg.

24 Hydref 2012

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn gwahodd tendrau ar gyfer y gwaith o gwblhau astudiaeth dichonoldeb ar gyfer ailddatblygu'r Hen Goleg.

Yn ogystal, bydd yr astudiaeth yn cynnwys eiddo’r Brifysgol yn 1, 9 a 10 Maes Lowri, sydd yn cynnwys Neuadd Joseph Parry, a rhif 1 a 2 Rhodfa’r Môr, a fu’n gartref i Ganolfan Feddygol y Brifysgol am flynyddoedd.

Ymhlith y syniadau a gynigwyd y mae datblygu 'ardal ddiwylliannol' yn seiliedig ar yr Hen Goleg, Canolfan Ôl-raddedig yn darparu gofod dysgu, addysgu ac astudio o safon byd, oriel gelf, ac adnoddau darlithio a pherfformio.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yn cynrychioli buddsoddiad o £60,000 gyda hanner yn cael ei ariannu gan Gronfa Adfywio Ardal Aberystwyth Llywodraeth Cymru a hanner gan y Brifysgol.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon: "Dengys ymchwil yn gyson bod Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chydnabod fel un o'r lleoliadau gorau i astudio ar gyfer israddedigion."

"Rydym eisiau adeiladu ar hynny a datblygu canolfan ôl-raddedig o'r radd flaenaf. Fodd bynnag, dylai'r Hen Goleg gael ffocws cymunedol yn ogystal ag un academaidd. Rydym eisiau darparu adnodd ar gyfer trigolion ac ymwelwyr yn ogystal â myfyrwyr a staff. Ein gweledigaeth yw cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf, gofod arddangos, siop y Brifysgol a phwynt cyswllt cyntaf ar gyfer busnesau lleol –gan ddod â'r dref a’r Brifysgol at ei gilydd mewn ardal ddiwylliannol newydd."

Cafodd y cyhoeddiad groeso gan Huw Lewis, Gweinidog Adfywio Llywodraeth Cymru: "Mae’r Hen Goleg yn adeilad eiconig yn Aberystwyth ac yn rhan annatod o’r Brifysgol i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol fel ei gilydd. Gall ei leoliad yng nghanol y dref gynnig canolbwynt i adfywiad yr ardal ac mae’r syniadau posibl a gyflwynwyd yn swnio'n hynod o gyffrous. "

Mae'r disgwyl i’r astudiaeth ddichonoldeb terfynol gael ei chyflwyno i'r Brifysgol ym mis Mawrth 2013.

Aberystwyth wedi cael ei nodi fel Ardal Adfywio gan Lywodraeth Cymru a darparwyd hyd at £10.3 miliwn ar gyfer ei fuddsoddi. Gellir cael gwybodaeth bellach ar www.wales.gov.uk/regeneration.

AU35412