Cystadleuaeth werth £20,000

InvEnterPrize

InvEnterPrize

02 Tachwedd 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr ennill hyd at £20,000 tuag at gychwyn menter busnes newydd.

Mae'r gystadleuaeth InvEnterPrize yn gystadleuaeth newydd a chyffrous sydd ar agor i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i ennill buddsoddiad a chefnogaeth i ddatblygu syniad busnes, boed yn wasanaeth neu yn ddyfais.

"Dechreuais fy musnes Telecoms yn yr ail flwyddyn o wyddoniaeth gyfrifiadurol yn Aberystwyth gyda £2,000. 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n fusnes sydd werthu miliynau o bunnoedd ac yn cyflogi dros 70 o bobl "esboniodd Peter Gradwell, sylfaenydd Gradwell dot com Ltd.

"I fod yn entrepreneur llwyddiannus rydych angen yn syniad gwych, cwsmer a chyfle. Bydd InvEnterPrize yn ehangu'r cyfle o ddifrif gyda’r swm aruthrol o £20,000 a llwythi o gyngor arbenigol - deg gwaith mwy o help a chefnogaeth er mwyn gobeithio, helpu lansio syniadau a fydd yn deg gwaith yn fwy llwyddiannus."

Mae ceisiadau yn cael eu hannog gan fyfyrwyr sy'n astudio yn Aberystwyth yn ystod 2012/13; gan unigolion neu dimau gyda dyfeisiadau, syniadau busnes cychwynnol a chynlluniau uchelgeisiol eraill. Fe fydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cyflwyno eu syniadau i'r beirniaid ar ffurf panel 'Dragon’s Den' cyn i'r enillydd gael ei ddewis.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1 Chwefror 2012 a bydd yr enillydd yn derbyn pecyn gwobr hael gan gynnwys cefnogaeth a buddsoddiad sydd werth hyd at uchafswm o £20,000. Maent hefyd yn cael:

• Cefnogaeth i gychwyn busnes
• Mentora technegol
• Cyngor eiddo deallusol
• Prototeipio

Yn ogystal, fe fydd pob unigolyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn cyngor arbenigol gan banel o entrepreneuriaid alumni llwyddiannus. Mae amodau a thelerau'r gystadleuaeth yn berthnasol ac mae manylion llawn ar gael yn www.aber.ac.uk/en/inventerprize

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei ariannu gan y Gronfa Flynyddol drwy'r Swyddfa Ddatblygu a Chysylltiadau Alumni, a drefnwyd gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a'i gefnogi gan Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Fel rhan o'r gystadleuaeth InvEnterPrize, bydd Rhwydwaith Menter Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr busnes a chyflwyniadau ysbrydoledig sydd yn agored i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau entrepreneuriaid a pharatoi eu ceisiadau yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2012. Ewch i'r dudalen digwyddiadau Crisalis am fanylion pellach: http://www.aber.ac.uk/en/ccs/staff-students/business-start-up/crisalis-events/

AU37612