Diwrnod Agored Uwchraddedig

Hen Goleg

Hen Goleg

12 Tachwedd 2012

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei Diwrnod Agored cyntaf i Uwchraddedigion ar ddydd Mercher 14eg Tachwedd i ddathlu cydnabyddiaeth gan yr arolwg dylanwadol igraduate (2012) fod ei Hysgol Astudiaethau Uwchraddedig ymhlith y pump gorau yn y byd.  

Bydd y Brifysgol yn dangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael i fyfyrwyr yn y gymuned uchel ei bri hon.

Bydd y Diwrnod Agored hefyd yn cyhoeddi sefydlu nifer o gyrsiau meistr newydd yn 2013, gan gynnwys gradd meistr newydd mewn Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg, cyfres o raglenni newydd yn y Gyfraith, a gradd meistr mewn Astudiaethau Plentyndod. Mae llawer ohonynt ar gael trwy Ddysgu o Bell.

Esboniodd Yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ac ymchwil:
"Mae'r arolwg igraduate yn darparu gwybodaeth allanol werthfawr am y safonau uwchraddedig uchel sydd wedi bodoli yn Aberystwyth erioed. Mae’n gydnabyddiaeth fod y gystadleuaeth am swyddi yn arbennig o ddwys ar hyn o bryd. Yn yr amgylchedd hwn, mae gan y rhai sydd yn meddu ar gymhwyster uwchraddedig fantais dros y rhai sydd heb."

"Mae ein Diwrnod Agored Uwchraddedig yn gyfle gwych i bawb brofi’r cyrsiau a gynigir, yr addysgu a’r cyfleusterau dysgu gwych, a'r cyllid sydd ar gael i gefnogi'r astudiaethau. Byddwn yn estyn croeso cynnes i bawb sy'n dymuno trafod y cyfleoedd uwchraddedig sydd ar gael", ychwanegodd.

Bydd y rhai sy'n teithio o'r tu allan i Aberystwyth hefyd yn gallu hawlio eu costau teithio er mwyn ymweld â'r Brifysgol. *

Mae enwau yn cael eu cymryd ar gyfer y Diwrnod Agored Uwchraddedig a gynhelir ar 14 Tachwedd 2012: http://www.aber.ac.uk/en/postgrad/postgraduate-open-days/reserve/

* Telerau ac amodau yn berthnasol

AU29412