Rheolwyr yr Athrofeydd newydd

Chwith i’r Dde: Rheolwyr yr Athrofeydd Jackie Sayce, Emyr Phillips, Annette Davies, Dave Smith, Adrian Harvey, Kath Williams a Jo Strong gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon (canol)

Chwith i’r Dde: Rheolwyr yr Athrofeydd Jackie Sayce, Emyr Phillips, Annette Davies, Dave Smith, Adrian Harvey, Kath Williams a Jo Strong gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon (canol)

06 Mawrth 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi penodiadau Jo Strong, Emyr Phillips, Annette Davies, Kath Williams, Dave Smith, Adrian Harvey a Jackie Sayce fel Rheolwyr saith Athrofa’r Brifysgol.

Bydd Rheolwyr yr Athrofeydd newydd yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr yr Athrofeydd i sicrhau y bydd yr Athrofeydd rhyngddisgyblaethol newydd yn cryfhau cydlynu gweithgareddau ar draws adrannau, canolfannau ac unedau ymchwil y Brifysgol.

Wrth wneud hynny, bydd yr Athrofeydd yn datblygu cyfleoedd arweinyddiaeth lefel uchel; caniatáu datganoli cyllidebau a gwneud penderfyniadau, ac yn creu set gyffredin o ddisgwyliadau mewn gwasanaethau a chefnogaeth ar draws y Brifysgol.

Wrth siarad am y penodiadau newydd, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon: "Llongyfarchiadau mawr i'r saith Rheolwr newydd. Roeddent bob un yn ymgeiswyr rhagorol mewn maes cystadleuol o ymgeiswyr mewnol. Wrth iddynt ymgymryd â'r rolau newydd yn yr Athrofeydd, byddant yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu ein Cynllun Strategol newydd a chyflawni uchelgais y Brifysgol ar gyfer y dyfodol.

Y Rheolwyr newydd ydy:

Jo Strong: Rheolwr Athrofa, Athrofa y Gwyddorau Dynol;

Emyr Phillips: Rheolwr Athrofa, IBERS;

Annette Davies: Rheolwr Athrofa ar gyfer yr Athrofa newydd a fydd yn cynnwys yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Canolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, Y Ganolfan i Raddedigion, Saesneg Rhyngwladol Canolfan a Chymorth i Fyfyrwyr Dysgu;

Kath Williams: Rheolwr Athrofa ar gyfer yr Athrofa newydd a fydd yn cynnwys yr Adrannau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ysgol Gelf, Cymraeg, Canolfan y Celfyddydau, Ieithoedd Ewropeaidd a'r Ganolfan Gerdd;

Dave Smith: Rheolwr Athrofa ar gyfer yr Athrofa newydd a fydd yn cynnwys IMAPS a Gwyddorau Cyfrifiadurol;

Adrian Harvey: Rheolwr Athrofa ar gyfer yr Athrofa newydd a fydd yn cynnwys yr Adran y Gyfraith a Throseddeg, Ysgol Rheolaeth a Busnes a'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth;
Jackie Sayce: Rheolwr Athrofa ar gyfer yr Athrofa newydd a fydd yn cynnwys IGES, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru.

Bydd y Rheolwyr yn gyfrifol am redeg prosesau gweinyddol, ariannol a gweithredol saith Athrofa’r Brifysgol yn effeithlon ac effeithiol yn ogystal â threfnu a chydlynu perthynas â gwasanaethau canolog y Brifysgol.

Disgwylir i bob Athrofa fod yn gwbl weithredol erbyn 1 Awst 2013, er bod rhai o'r rheolwyr yn dechrau ar eu swyddi dipyn cyn hynny er mwyn gwneud gwaith paratoadol pwysig.

AU9113