Cysylltiadau gyda phrif gyflogwyr

Cyfranogwyr cyfweld cyflym Chwith – Dde:  Nick Bowell, Enterprise Rent-a-Car, Carolyn Parry, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth, Maggie Lewis, Dŵr Cymru, Helen Ford, Network Rail, a Darina Davies o’r Gwasanaeth Sifil.

Cyfranogwyr cyfweld cyflym Chwith – Dde: Nick Bowell, Enterprise Rent-a-Car, Carolyn Parry, Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth, Maggie Lewis, Dŵr Cymru, Helen Ford, Network Rail, a Darina Davies o’r Gwasanaeth Sifil.

15 Mawrth 2013

Mae rhai o brif recriwtwyr graddedigion y Deyrnas Gyfunol  wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth i’w cynorthwyo i ddatblygu eu technegau cyfweld.

Bu cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Sifil a Network Rail, sy'n ymddangos ar restr 100 uchaf Cyflogwyr Graddedigion y Times, ynghyd â Dŵr Cymru ac Enterprise Rent-a-Car mewn sesiwn cyfweld cyflym yn Aberystwyth ar ddydd Iau 8 Mawrth.

Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol ac  roedd yn adeiladu ar ddigwyddiad peilot llwyddiannus a drefnwyd gyda Network Rail y llynedd.

Cafodd y myfyrwyr gyfres o gyfweliadau pedair munud gyda'r gwahanol recriwtwyr ac adborth ar eu perfformiad yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i wella eu techneg cyfweld.

Ar ddiwedd y sesiwn, treuliodd cyflogwyr amser gyda myfyrwyr unigol a oedd yn eu tyb hwy yn arbennig o addas fel darpar weithwyr gan amlinellu sut i wneud cais llwyddiannus.

Trefnwyd y digwyddiad gan dîm o staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd a arweiniwyd gan Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Dywedodd: "Pwrpas hyn oll yw rhoi i'n myfyrwyr y cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o sgiliau cyflogadwyedd a’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano."

"Mae hefyd yn gyfle pwysig i brif recriwtwyr adnabod talent ac adnabod myfyrwyr unigol ar gyfer eu cyfweld ymhellach, fel y digwyddodd gyda nifer o'n myfyrwyr yn dilyn y sesiwn diweddaraf."

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn awr yn gweithio gyda nifer o gyflogwyr graddedigion uchel eu proffil i ddatblygu digwyddiad dau ddiwrnod i wella eu rhagolygon cyflogaeth myfyrwyr.

"Mae ein strategaeth o adeiladu perthnasau cryf â chyflogwyr drwy'r math hwn o ddigwyddiad yn talu ar ei ganfed wrth i ni weld mwy o fyfyrwyr a graddedigion yn sicrhau cyfleoedd blwyddyn ddiwydiannol a graddedigion gyda’r prif gwmnïau. Mae’r ymateb gan fyfyrwyr a chyflogwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y rhain ar gyfer y sesiwn nesaf sydd i fod i ddigwydd yn yr hydref, "ychwanegodd Carolyn.

AU9313