Y Daith Oeraf

Chwith i’r Dde: Dr Arwyn Edwards, Simon Cameron a Dr Luis Mur o IBERS.

Chwith i’r Dde: Dr Arwyn Edwards, Simon Cameron a Dr Luis Mur o IBERS.

26 Mawrth 2013

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect a fydd yn mesur sut mae tîm yr ymgyrch anturus ’The Coldest Journey’, yr ymgais gyntaf erioed i geisio croesi'r Antarctig yn y gaeaf, yn ymateb i fisoedd o fyw mewn tywyllwch llwyr mewn tymheredd sy’n cyrraedd minws 70oC.

Mae Dr Arwyn Edwards, Dr Luis Mur a myfyriwr PhD Simon Cameron o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ymuno â chonsortiwm rhyngwladol o 20 o sefydliadau fel rhan o’r prosiect White Mars. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Goleg y Brenin Llundain a’i gydlynu gan Dr Alex Kumar o’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Bydd y prosiect White Mars yn defnyddio'r tebygrwydd sy'n bodoli rhwng yr amodau mae’r teithwyr yn byw ynddynt mewn gaeaf yn yr Antarctig a'r rhai a geir yn y gofod. Bydd teithwyr yr ymgyrch yn cael eu hynysu am flwyddyn, gyda chyfnodau hir o dywyllwch llwyr, oerfel eithafol a straen byw ar dir uchel. Mae ymadawiad diweddar Syr Ranulph Fiennes o’r ymgyrch yn dangos natur anfaddeuol yr amgylchedd gelyniaethus hwn.

Er bod effaith ymdrechion pobl i deithio i’r Pegynau yn chwedlonol, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am sut mae’r organebau lleiaf sy'n ffurfio ecosystem ficrobaidd dynol yn goroesi yn y Pegynau. Tîm IBERS bydd yn gyfrifol am fapio microbiomau y teithwyr yn yr Antarctig dros gyfnod o amser.

Esboniodd Dr Arwyn Edwards, un o’r ymchwilwyr, "Mae ymchwil i’r microbiom dynol o dan amodau arferol yn faes ymchwil â phroffil uchel iawn gyda goblygiadau mawr i iechyd ac afiechyd, gan fod y microbau sy'n byw ar ein cyrff deg gwaith yn fwy niferus na’n celloedd. Rydym yn rhagweld y bydd gennym set unigryw o samplau.

“Byddwn yn edrych ar newidiadau yn y croen, perfedd, poer a chymunedau microbaidd y trwyn. Byddwn hefyd yn edrych ar arwyddion o straen yng ngwaed y teithwyr ac yn cydberthyn y newidiadau mewn lefelau straen a’r cymunedau microbaidd. "

Bydd data a samplau yn cael eu casglu gan aelodau profiadol o'r criw teithio gan ddefnyddio gweithdy gwyddonol o fewn cynhwysydd pwrpasol 27 troedfedd o hyd, sydd wedi ei inswleiddio. Wedyn bydd y samplau yn cael eu hanfon i'w dadansoddi at nifer o sefydliadau ymchwil nodedig, gan gynnwys IBERS.

Mae'r daith o Fae’r Goron i ganolfan Capten Scott yn McMurdo Sound, trwy Begwn y De, yn cymryd chwe mis - yn bennaf mewn tywyllwch llwyr - a byddant yn teithio dros 2,000 o filltiroedd.

Bydd y teithwyr yn gwbl hunangynhaliol. Ni fydd hi’n bosib cael adnoddau chwilio ac achub gan na all awyrennau dreiddio i'r mewndir yn ystod y gaeaf, oherwydd y tywyllwch a'r perygl o danwydd yn rhewi.

Y gobaith yw y bydd canfyddiadau gwyddonwyr IBERS yn helpu i gynllunio teithiau pell  i’r gofod yn y dyfodol. Yn nes adref, mae gan y tîm ddiddordeb mewn edrych os yw’r straen sydd ar organau anadlu dan amodau o oerfel ac uchder eithafol yn effeithio ar ficrobiom yr ysgyfaint yn yr un modd ag afiechydon cronig yr ysgyfaint, megis emffysema. Mae’r afiechyd emffysemia yn effeithio ar fywydau tua miliwn o bobl yn y DG yn unig.

AU10913