Cymrawd celf gain

Vivian Ezugha

Vivian Ezugha

02 Mai 2013

Mae Vivian Ezugha, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wedi ennill Cymrodoriaeth Windsor sef rhaglen datblygiad proffesiynol a phersonol o flwyddyn ar gyfer israddedigion Duon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru.

Vivian yw'r unig ymgeisydd o Gymru sydd wedi ennill y Gymrodoriaeth eleni, a’r haf hwn bydd yn cael cyfnod chwe wythnos o brofiad gwaith gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhaglen gyflogaeth 50-wythnos ar ôl graddio.

Yn ystod y flwyddyn, fe fydd yn mynychu seminarau sy'n ymwneud â sgiliau arwain, sgiliau datblygiad personol yn ogystal â dysgu sut i adeiladu dyfodol mwy disglair i Leiafrifoedd Du ac Ethnig yng Nghymru a Lloegr.

Yn wreiddiol o Nigeria, symudodd Vivian gyda'i theulu i fyw i Birmingham pan oedd yn wyth-mlwydd-oed. Penderfynodd astudio yn Aberystwyth oherwydd hunaniaeth ddiwylliannol gref yr ardal ac am ei fod yn nes i’r môr a chefn gwlad.

Eglurodd y fyfyrwraig 22-mlwydd-oed, "Roeddwn wrth fy modd pan glywais fy mod wedi cael fy newis ar y cynllun yma oherwydd nid yn unig y bydd yn hwb i fy natblygiad personol, ond hefyd i’ng ngyrfa.

"Mae'r rhaglen yn hynod o ddwys ond werth bob eiliad gan ei bod yn eich herio, yn gwneud i chi feddwl am bethau'n wahanol ac yn gwella a datblygu eich hyder a'ch sgiliau cyflwyno."

Mae'r rhaglen arweinyddiaeth yn cynnwys seminarau preswyl dwys, rhaglen gwella bersonol, gwaith cymunedol, profiad gwaith haf cyflogedig a 50-wythnos o brofiad gwaith ar ôl graddio gyda Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwil yn dangos nad yw unigolion o gefndiroedd BME yn mynd ymlaen i wneud y gorau o'u talent a photensial ar ôl mynychu sefydliadau addysg uwch.

Mae myfyrwyr BME yn llai tebygol o ddod o hyd i waith ar ôl cwblhau gradd, ac mae'r cyfraddau cymharol o ddiweithdra neu dangyflogaeth ymysg oedolion o'r cymunedau hyn ar gyfartaledd ddwywaith mor uchel â’r hyn a brofir gan eu cymheiriaid gwyn.

Ychwanegodd Vivian, "Rwy'n ymwybodol bod llawer iawn o waith i'w wneud â helpu pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig i gyflawni eu potensial. Rwyf eisiau helpu i chwalu'r rhwystrau hynny a helpu pobl i gyflawni eu nodau a'u dyheadau.

"Rwyf hefyd yn credu mewn helpu pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol i fagu hyder a gwybod eu bod yn gallu cyflawni eu potential beth bynnag yw eu sefyllfa gymdeithasol."

Gellir cael mwy o wybodaeth am Gymrodoriaeth Windsor ar gael yma: http://www.windsor-fellowship.org


AU14713