Gobeithio torri record Bioblitz

Pysgota â rhwyd

Pysgota â rhwyd

13 Mai 2013

Er gwaethaf y tywydd ofnadwy o oer a gwlyb, disgrifiwyd y Bioblitz cyntaf i’w gynnal yn Aberystwyth, a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 11 Mai, yn llwyddiant mawr gan y trefnwyr o IBERS, Dr John Warren, Dr Pippa Moore a'r fyfyrwraig ôl-raddedig Charlie Long.

Ac, wrth i'r gwaith o gofrestru’r holl rywogaethau barhau, maent yn ffyddiog y gallant dorri'r record am y nifer mwyaf o rywogaethau i’w cofnodi mewn 24 awr.

Ar y cyfrif diweddaraf (brynhawn dydd Llun 13 Mai) roedd mwy na 2000 o rywogaethau wedi cael eu canfod a'u hadnabod, gan gynnwys microbau, planhigion, mamaliaid, adar, pryfed, ymlusgiaid, amffibiaid a physgod.

Er gwaethaf y tywydd ymunodd mwy na 200 o bobl frwd ag arbenigwyr o grwpiau lleol a fu’n cynorthwyo i arwain sesiynau, a myfyrwyr, gyda llawer ohonynt yn gweithio drwy’r dydd a’r nose r mwyn rhoi trefn ar y data, pwyso dros ficrosgopau i adnabod y gwahanol rywogaethau a gweithredu fel rhedwyr a chynorthwyo ar weithgareddau .

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr John Warren, Uwch Darlith mewn Ecoleg yn IBERS: "Rydych yn gwybod eich bod yn rhan o rywbeth anghyffredin pan bod grŵp o ugain o bobl yn barod i godi cyn toriad y wawr ar fore Sadwrn oer a gwlyb i fynd i chwilio am ystlumod. Er iddynt dreulio dwy awr gyda’u synwyryddion uwchsain heb glywed yr un gwichiad, roeddent yn parhau i fod yn llawn brwdfrydedd.

"Cynhlaiwyd y digwyddiad cyfan dros gyfnod o 24awr prysur iawn, o hanner nos ar nos Wener tan hanner nos ar ddydd Sadwrn 11 Mai, gyda llond llaw o wirfoddolwyr yn aros ar ddeffro drwy gydol y diwrnod cyfan.

"Nawr bod y llwch wedi setlo ar y digwyddiad nid ydym yn gwybod beth yw’r cyfanswm o rywogaethau o hyd, ond mae rhywle dros y marc 2000," ychwanegodd Dr Warren. "Mae'r rhai sydd eisoes ar y gronfa ddata yn cynnwys: 1062 gwahanol fath o ficrobau, 450 o uwch-blanhigion, 14 mamaliaid, 40 o adar, 24 gwahanol fath o bryfaid, 2 fath o ymlusgiaid, 3 o amffibiaid, a 7 math o bysgod. Mae’r rhestr gyflawn o rywogaethau a welwyd ar y diwrnod yn parhau i godi wrth yr awr, gyda rhwng 100 a 200 o gennau yn dal heb eu cofnodi, er enghraifft. Felly, mae’n eithaf posibl y bydd y record yn cael ei thorri."

"Ymysg uchafbwyntiau’r Bioblitz mae cofnodion newydd o bryfed cop a nadroedd cantroed. I’r rhai sy’n cael eu denu at y ciwt a’r meddal, cafwyd ymddangosiadau gan ein moch daear, cwningod a gwiwerod i gyd gwneud ymddangosiad, er gwaethaf y tywydd a'r Ddawns Fai", ychwanegodd Dr Warren.

Bydd y cyfrif rywogaethau llawn (gan gynnwys dadansoddiad llawn o'r holl rywogaethau a gofnodwyd) yn parhau i godi yn ystod y dyddiau nesaf wrth i'r tîm barhau i fwydo gwybodaeth i mewn i’r gronfa ddata a ddatblygwyd gan staff yn yr Adran Gyfrifiadureg. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i’w gweld ar y wefan http://bioblitz.dcs.aber.ac.uk.

Mi fydd digwyddiadau'r dydd hefyd yn ymddangos ar raglen BBC Radio Wales, Science Café, ar ddydd Mawrth 14 Mai, gyda chyflwynydd y rhaglen, Adam Walton, yn ymuno yn yr hwyl. http://www.bbc.co.uk/programmes/b01sdwdf.

Cofnodwyd gweithgareddau'r diwrnod hefyd gan fyfyrwyr o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Ychwanegodd Dr Warren: "Yn olaf, wrth i weithgareddau’r diwrnod ddirwyn i ben, cafodd selogion yr ystlumod eu gwobr wrth iddynt gael cip o ddwy rywogaeth, yr Ystlum Lleiaf a’r Ystlum Lleiaf Soprano – uchafbwynt i’r diwrnod yn ddi-os.”

AU16513