Shakespeare a Chynaliadwyedd

Cyflwyno gwobr INSPIRE:(o’r chwith) Yr Athro Howard Thomas, Dr Adeline Johns-Putra, cyfarwyddwr INSPIRE Jane Davidson, Yr Athro Richard Marggraf Turley, and Dr Jayne Elisabeth Archer.

Cyflwyno gwobr INSPIRE:(o’r chwith) Yr Athro Howard Thomas, Dr Adeline Johns-Putra, cyfarwyddwr INSPIRE Jane Davidson, Yr Athro Richard Marggraf Turley, and Dr Jayne Elisabeth Archer.

23 Mai 2013

Bydd Dr Jayne Elisabeth Archer a’r Athro Richard Marggraf Turley o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a’r Athro Howard Thomas o IBERS yn esgyn i'r llwyfan yng Ngŵyl y Gelli heddiw, ddydd Iau 23 Mai, i draddodi'r ddarlith gyhoeddus y bu mawr ddisgwyl amdani ac a fydd yn ymchwilio i weithiau Shakespeare o safbwynt cynaliadwyedd.

Bu’r ddarlith hon, o dan y teitl ‘Reading with the Grain: Sustainability and the Literary Imagination’, yn fuddugol yn ddiweddar mewn cystadleuaeth bwysig i arddangos ymchwil sy’n trafod y berthynas rhwng llenyddiaeth a’r dadleuon ynghylch cynaliadwyedd.

O dan arweiniad yr ysgolhaig llenyddol, Dr Jayne Archer, bydd y ddarlith yn dangos bod materion a oedd yn ymwneud â bwyd yn nyddiau Shakespeare - ei argaeledd, ei brinder, a phwy a reolai gyflenwadau bwyd – yn hanfodol i’r dramodydd yntau ynghyd â’i ddramâu.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar y cyd â’r Gymdeithas ar gyfer Astudio Llenyddiaeth ac Amgylchedd, y DU ac Iwerddon (ASLE-UKI). 

Nod y gystadleuaeth oedd rhoi cyfle i ysgolheigion llenyddol fynd i’r afael â syniad cynaliadwyedd trwy lunio darlith gyhoeddus a fyddai’n olrhain astudiaethau llenyddol yng ngoleuni materion cynaliadwyedd.

Yn  dilyn y ddarlith cynhelir trafodaeth gyhoeddus rhwng Dr Archer, yr Athro Marggraf Turley a’r Athro Thomas, cyfarwyddwr INSPIRE, Jane Davidson, a chadeirydd ASLE-UKI, Dr Adeline Johns-Putra, ac yn ystod y cyfnod hwn byddant yn trafod y modd y cynigia ymdriniaethau llenyddol â chynaliadwyedd ffordd newydd o edrych ar y byd o’n cwmpas.

Wrth sôn am y gystadleuaeth, meddai cyfarwyddwr INSPIRE, Jane Davidson: “Mae'r canfyddiadau yn Shakespeare yn dangos yn glir y modd y gall ailddarllen gweithiau llenyddol hanesyddol o safbwynt cynaliadwyedd fwrw goleuni diddorol ar y modd y buom yn byw. Gall llenyddiaeth fod yn ffordd rymus i’n helpu i ddysgu rhagor am faterion cynaliadwyedd yn y gorffennol a gall y wybodaeth hon lywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Traddodir y ddarlith am 7pm ar Lwyfan Landmarc 100 yr Ŵyl. Bydd y ddarlith y gwahodd y gynulleidfa i ailystyried ysgrifeniadau Shakespeare i ddod o hyd i ganfyddiadau creadigol ynghylch ymwneud mewn modd amheus a llym â’r dyfodol.

AU18113