Canhwyllau mewn llety Prifysgol

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

30 Mai 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn hapus iawn i groesawu aelodau o'r Gymuned Iddewig Uniongred i Aberystwyth dros gyfnod 20 mlynedd a mwy, ac mae'n destun siom ein bod mewn sefyllfa lle nad oes modd i ni wneud hyn unwaith eto eleni.

Mae'r Brifysgol wedi ystyried y cais am ganiatâd i ddefnyddio canhwyllau yn fanwl iawn. Wrth ddod i benderfyniad i beidio â chaniatáu canhwyllau wedi eu cynnau mewn ystafelloedd yn y Brifysgol cafwyd cyngor cyfreithiol ac iechyd a diogelwch, a chafwyd dialog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chynhaliwyd  asesiad risg ein hun yn seiliedig ar y cyd-destun lleol a digwyddiadau blaenorol.

Mae'r defnydd o ganhwyllau / fflamau noeth wedi ei wahardd yn holl breswylfeydd y Brifysgol. Nodir hyn yn glir yn y telerau a'r amodau y mae'n ofynnol i grwpiau sy'n ymweld eu llofnodi a chydymffurfio â nhw yn ystod eu harhosiad. Yn anffodus, y llynedd cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â chanhwyllau wedi eu cynnau gyda'r grŵp hwn, a ysgogodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i alw ar y Brifysgol i weithredu ar frys.

Yn ystod y trafodaethau ynghylch yr ymweliad arfaethedig eleni gofynnwyd i'r Brifysgol ddileu rhannau o'r telerau ac amodau sy'n cyfeirio at fflamau wedi eu cynnau mewn llety,  ac awgrymwyd gan y grŵp y byddai  fflamau amgaeedig yn fwy derbyniol i'r Brifysgol.

Cafodd y cynnig hwn ei ystyried yn fanwl ond roedd y Brifysgol o’r farn y byddai’n cyfaddawdu diogelwch.

Nid yw hwn yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach a diogelwch tân yn unig yw’r sail am hyn. Fe’i gwnaed er budd diogelwch y rhai sy'n aros mewn llety Prifysgol ac er mwyn diogelu staff ac eiddo'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn trin y grŵp hwn yn union yr un fath ag unrhyw un arall; mae'n ofynnol i bob grŵp preswyl sy'n ymweld gadw at ein telerau a’n amodau safonol. Ni chaniateir canhwyllau yn llety'r Brifysgol, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i'r holl fyfyrwyr sy'n byw yn llety'r Brifysgol yn ystod y tymor.

Mae'r Brifysgol wedi derbyn sawl cynrychiolaeth ac ymweliad gan y grŵp i drafod mater y canhwyllau. Mae’r drws yn parhau ar agor i drafodaeth bellach gydag aelodau o'r grŵp a byddai'r Brifysgol yn falch iawn o gael eu croesawu  yn ôl i Aberystwyth yn y dyfodol, cyn belled â'u bod yn gallu cydymffurfio â thelerau ac amodau safonol y Brifysgol.

AU11913