Cymrodyr er Anrhydedd 2013

Llywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno Cymrodoriaeth i’r enillydd Oscar a’r cyn fyfyriwr o Aberystwyth, Dr Jan Pinkava, yn ystod seremonïau 2012.

Llywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno Cymrodoriaeth i’r enillydd Oscar a’r cyn fyfyriwr o Aberystwyth, Dr Jan Pinkava, yn ystod seremonïau 2012.

04 Gorffennaf 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deg Cymrawd yn ystod Seremonïau Graddio 2013 sydd yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth 9 tan ddydd Gwener 12 Gorffennaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Cyflwynir y teitl o Gymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus a chanddynt gysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu rai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Roeddem wrth ein boddau eleni ein bod wedi derbyn cynifer o enwebiadau o safon uchel ar gyfer Cymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n bleser ac yn anrhydedd cael cydnabod cyfraniad yr unigolion eithriadol yma. Mae Wythnos Graddio yn ddathliad, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r seremonïau gyda’n Cymrodyr newydd.”

Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2013 yw (yn nhrefn eu cyflwyno):

Ei Anrhydedd Barnwr Niclas Parry
Y mae Niclas Parry yn Farnwr Cylchdaith ar Gylchdaith Cymru ac yn barnu mewn achosion Cyfraith Droseddol yn Llys y Goron. Wedi ei ysbrydoli gan brofiadau ei ddiweddar fam a oedd yn Ynad Heddwch, roedd Niclas yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y Gyfraith a graddiodd o Aberystwyth, lle bu hefyd yn brif warden ar Neuadd Pantycelyn. Ar ôl gorffen ei astudiaethau, aeth ymlaen i ddilyn gyrfa yn gyfreithiwr, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol a chyfraith teulu. Y mae Niclas hefyd yn gyflwynydd a sylwebydd chwaraeon adnabyddus ar y radio. Yn ddiweddar cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd, lle caiff ei adnabod fel Niclas y Llais!

Cyflwynir Ei Anrhydedd Barnwr Niclas Parry gan Dr Glenys Williams o Adran y Gyfraith a Throseddeg ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.

Sharon Maguire
Yn gyn-fyfyrwraig yn y Brifysgol, astudiodd Sharon Maguire am radd yn y Saesneg a Drama cyn gwneud TAR yn Aberystwyth. Gweithiodd ym maes cyhoeddi am ychydig o flynyddoedd cyn cymryd cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth a mynd i fyd y cyfryngau. Mae Sharon wedi cyfarwyddo llawer o raglenni a chynyrchiadau teledu gan gynnwys The Late Show, Bookmark, Omnibus, MediaShow a hysbysebion niferus cyn cyfarwyddo’r ffilm hynod boblogaidd, Bridget Jones’ Diary. Yn 2007, ysgrifennodd y ffilm Incendiary, a’i chyfarwyddo, ac erbyn hyn mae’n gweithio fel sgriptiwr a chyfarwyddwr teledu a ffilmiau.

Cyflwynir Sharon Maguire gan Dr Tiffany Atkinson o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.  Oherwydd ymrwymiad proffesiynol blaenorol, bydd ei Chymrodoriaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod ymweliad â’r Brifysgol yn y dyfodol.

Neil Brand
Mae’r cyn-fyfyriwr Neil Brand yn ysgrifennwr, yn gyfansoddwr ac yn gyfrannwr rheolaidd i raglenni radio a theledu’r BBC, ond yn anad dim, ef yw ‘Prif gyfeilydd y ffilmiau mud’ (Torin Douglas, Radio 4). Mae Neil wedi cyflwyno rhaglen y celfyddydau Radio 2, mae’n gyfrannwr rheolaidd ar The Film Programme Radio 4, yn gyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Mud Prydain, yn athro ymweliadol yn y Coleg Cerdd Brenhinol, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r cyfeilyddion gorau yn y byd ar gyfer ffilmiau mud. Mae’n cyfeilio i ffilmiau mud ers bron i 30 mlynedd, yn rheolaidd yn Llundain, yn y Barbican a’r Theatr Ffilm Genedlaethol, ledled Prydain, ac mewn gwyliau ffilmiau ar draws y byd.

Cyflwynir Neil Brand gan yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.

Betsan Powys
Graddiodd Betsan o’r Brifysgol gyda gradd mewn Almaeneg a Drama, ac aeth ymlaen i wneud MLitt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Penodwyd Betsan yn Olygydd Rhaglenni Radio Cymru yn ddiweddar, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad darlledu a chyflwyno. Ymunodd â’r BBC yn 1989 fel Hyfforddai Newyddion ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus fel cyflwynydd dwyieithog ar y teledu a’r radio, ac fel blogiwr gwleidyddol. Mae Betsan yn wyneb cyfarwydd ar y BBC ac S4C, ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni newyddion gwleidyddol gan gynnwys Panorama, Week In Week Out a’r Byd ar Bedwar.

Cyflwynir Betsan Powys gan Alwena Hughes-Moakes, Swyddog Polisi a Gweithredol ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf.

Yr Athro Douglas Kell
Cyn aelod o staff Prifysgol Aberystwyth yw’r Athro Douglas Kell, a benodwyd yn Brif Weithredwr ar Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg (BBSRC) yn 2008, a fydd yn camu yn ôl ym mis Hydref 2013. Yn academydd o fri, dechreuodd Douglas ei yrfa ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1983 lle cafodd ei ddyrchafu i Gadair Bersonol. Rhwng 1997-2002 ef oedd Cyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Aberystwyth. Y mae ei gyflawniadau gwyddonol yn cynnwys datblygu a manteisio ar lawer o ddulliau dadansoddol newydd. Mae’n un o gyd-sylfaenwyr y cwmni Aber Instruments, cwmni a enillodd Wobr y Frenhines am Gyflawniadau Allforio. Arloesodd mewn amryw agwedd ym meysydd bioleg gyfrifiannol a metabolomeg arbrofol. Cyfrannodd Douglas hefyd at ddarganfyddiad y sytocein bacteriol cyntaf sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu yn rhan o frechiad yn erbyn y ddarfodedigaeth.

Cyflwynir yr Athro Douglas Kell gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf. Oherwydd ymrwymiad proffesiynol blaenorol, bydd ei Gymrodoriaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod ymweliad â’r Brifysgol yn y dyfodol.

Dr Elaine Storkey
Yn gyn-fyfyrwraig Athroniaeth, mae Dr Elaine Storkey yn academydd ac yn ddarlledwr adnabyddus, ac fe’i henwyd yn un o’r 100 o ddeallusion cyhoeddus benywaidd ar restr The Guardian. Ar ôl astudio yn Aberystwyth, aeth Elaine ymlaen i wneud astudiaethau uwchraddedig yng Nghanada cyn mwynhau gyrfa academaidd nodedig ym maes Athroniaeth a Diwinyddiaeth. Mae ganddi hefyd Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth ym maes Cymdeithaseg a Diwinyddiaeth o Lambeth a Doethuriaeth er Anrhydedd o Goleg Cheltenham and Gloucester. Ers 2008 mae’n aelod o’r Bwrdd Uwch yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Elaine yw Llywydd Tearfund ers 1997, ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Addysg ar Fyddin yr Eglwys, Eglwys Lloegr. Mae wedi ysgrifennu wyth o lyfrau, ac mae hefyd yn ysgrifennu’n rheolaidd i gyfnodolion a phapurau newydd ac yn cyfrannu’n aml i raglen Thought for the Day Radio 4.

Cyflwynir Dr Elaine Storkey gan yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth ar ddydd Iau 11 Gorffennaf.

Dr Emyr Roberts
Ganwyd a magwyd Emyr ar Ynys Môn, ac enillodd ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Reading cyn cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cychwynnodd ei yrfa gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, cyn ymuno â’r Swyddfa Gymreig yn 1991. Ar ôl dal swyddi ym meysydd iechyd a diwylliant, dyrchafwyd Emyr i’r Uwch Wasanaeth Sifil a daeth yn Brif Weithredwr ar Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn 1997. Rhwng 2005 a 2012, daliodd Emyr swyddi amrywiol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyfarwyddwr yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio; Cyfarwyddwr yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol; Cyfarwyddwr Cyffredinol ar Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol; a Chyfarwyddwr Cyffredinol ar yr Adran Addysg a Sgiliau. Ers mis Tachwedd 2012, ef yw Prif Weithredwr cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyflwynir Dr Emyr Roberts gan yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes a Gwleidyddiaeth ar ddydd Iau 11 Gorffennaf.

Ian Jones
Cyn-fyfyriwr economeg yn y Brifysgol, chwaraeodd Ian Jones ran allweddol wrth lansio S4C yn 1982. Ar ôl cyfnod yn gweithio yn ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ailymunodd â S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chydgynhyrchu yn 1992. Ers hynny mae wedi gweithio mewn swyddi rheoli uwch i Scottish Television, United News and Media, (ITEL), Granada International (sef ITV Global erbyn hyn) ac mae wedi gwasanaethu am ddwy flynedd, sydd yn dymor digynsail, yn Gadeirydd ar Gymdeithas Diwydiant Dosbarthu Teledu Prydain (BTDA). Bu’n Llywydd ar National Geographic Television International, cyn dod yn Rheolwr-Gyfarwyddwr Grŵp Target Entertainment. Ei swydd ddiwethaf oedd Rheolwr-Gyfarwyddwr ar Ddosbarthu Cynnwys a Datblygu Masnachol Rhyngwladol ar gyfer A+E Television Networks yn Efrog Newydd. Erbyn hyn mae wedi dychwelyd i S4C fel Prif Weithredwr, 30 o flynyddoedd ar ôl helpu i lansio’r sianel.

Cyflwynir Ian Jones gan Dr Elin Haf Gruffydd Jones o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf.

Richard Lynch
Ers graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 1986, mae Richard wedi gweithio’n eang ym myd y theatr a theledu, gan ddod yn un o’r actorion uchaf ei barch yng Nghymru. Yn brif actor gyda chwmnïau theatr blaenllaw megis The Royal Shakespeare Company, Y Cwmni, The Royal Court, Almeida Theatre a Brith Gof, mae’n arbennig o falch o’i gysylltiad agos â Theatr Genedlaethol Cymru, ac yn ddiweddar chwaraeodd y brif ran yn eu cynhyrchiad o Coriolanus. Mae’n dal i feithrin perthynas agos â Lurking Truth/Y Gwir sy’n Llechu, a sefydlodd ar y cyd â David Ian Rabey pan oedd yn fyfyriwr israddedig, ac fe gyfarwyddodd ‘‘I Saw Myself’ gan Howard Barker yn Theatr y Chapter, Caerdydd y llynedd.

Cyflwynir Richard Lynch gan yr Athro David Ian Rabey o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf.

Gwyneth Lewis
Gwyneth oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru o 2005 i 2006. Mae wedi cyhoeddi wyth cyfrol o farddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd Parables & Faxes (1995) Wobr Casgliad Cyntaf Aldeburgh; Y Llofrudd Iaith oedd Llyfr y Flwyddyn yng nghystadleuaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2000; ac enillodd Sparrow Tree Wobr Barddoniaeth Roland Mathias yn 2012. Enillodd Gwyneth Wobr Cholmondeley Cymdeithas yr Awduron am gorff nodedig o waith. Gweithiau hunangofiannol yw Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression a Two in a Boat ac yn 2012 enillodd y Goron yn y Genedlaethol. Yn yr un Eisteddfod, cafodd ei chyfieithiad o The Tempest Shakespeare ei berfformio gan y Theatr Genedlaethol. Gwyneth hefyd a gyfansoddodd y geiriau ar flaen Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Cyflwynir Gwyneth Lewis gan yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf. Oherwydd ymrwymiad proffesiynol blaenorol, bydd ei Chymrodoriaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod ymweliad â’r Brifysgol yn y dyfodol.

AU23613