Graddio 2013

Graddio, amser i ddathlu!

Graddio, amser i ddathlu!

09 Gorffennaf 2013

Bydd mwy na 2,700 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon wrth i Graddio 2013 ddechrau heddiw, ddydd Mawrth 9 Gorffennaf.

Wythnos Graddio, sydd eleni’n cynnwys naw seremoni dros gyfnod o bedwar diwrnod rhwng dydd Mawrth 9 a dydd Gwener 12 Gorffennaf, yw uchafbwynt calendr y Brifysgol ac mae’n ddathliad o’r hyn sydd wedi ei gyflawnu gan fyfyrwyr Aberystwyth.

Mae hefyd yn gyfle i raddedigion ddathlu a mwynhau'r achlysur gyda'u ffrindiau a’u teuluoedd.

Eglurodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol, "Rwy'n edrych ymlaen at ysgwyd llaw pob un o'n graddedigion yn bersonol a dymuno'n dda iddynt i’r dyfodol.

"Mae nifer o achlysuron yn ystod y calendr academaidd pan fyddaf yn teimlo'n arbennig o falch o'r hyn mae ein myfyrwyr wedi ei gyflawni ac mae Graddio yn benllanw holl lwyddiannau ein myfyrwyr.

"Boed yn astudio ymhellach neu fynd i mewn i'r gweithle, bydd ein myfyrwyr yn symud ymlaen at y bennod nesaf yn eu bywydau a dymunaf ddyfodol cynhyrchiol a llwyddiannus iddynt. Dylem gofio yn ogystal ddyled ein myfyrwyr i’n tîm o staff academaidd a chynorthwyol, ac mae Graddio yn gyfle i ni gyd ddiolch iddynt.”

Bydd y seremonïau graddio yn cael ei ffrydio'n fyw ar-lein ar http://www.aber.ac.uk/cy/graduation/video/stream/.

Trefn y seremonïau:
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2013
Seremoni 1: 11yb
• Adran y Gyfraith a Throseddeg
• Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Seremoni 2: 3yp
• Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
• Yr Adran Hanes a Hanes Cymru

Seremoni 2a: 7yh
• Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Dydd Mercher 10 Gorffennaf, 2013
Seremoni 3: 11yb
• Yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd
• Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
• Yr Ysgol Gelf
Seremoni 4: 3yp
• Yr Adran Cyfrifiadureg
• Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Dydd Iau 11 Gorffennaf, 2013
Seremoni 5: 11yb
• Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
• Ysgol Rheolaeth a Busnes
Seremoni 6: 3yp
• Yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth
• Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Dydd Gwener 12 Gorffennaf, 2013
Seremoni 7: 11yb
• Yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Seremoni 8: 3yp
• Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
• Yr Adran Seicoleg
• Adran y Gymraeg

AU23713