Société de Linguistique Romane

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

23 Gorffennaf 2013

Etholwyd yr Athro David Trotter, Pennaeth Adran Ieithoedd Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth, yn Llywydd y Société de Linguistique Romane ar gyfer 2013-16.

Sefydlwyd y Société de Linguistique Romane (SLiR) yn 1924. Hon yw'r gymdeithas ddysgedig ryngwladol bwysicaf a mwyaf ei bri sydd yn ymwneud ag ieithyddiaeth ac ieitheg yr ieithoedd Romáwns ac mae iddi aelodaeth fyd-eang.

Yr Athro Trotter yw’r pumed-Llywydd-ar-hugain, a’r ail academydd yn unig o Brydain i dderbyn yr anrhydedd -  bu’r Athro John Orr yn Llywydd yn 1965/66.

Cafodd ei ethol yn ystod cynhadledd yr SLiR a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf yn ninas Nancy, Ffrainc.

Mae’r Athro Trotter newydd gwblhau cyfnod fel Is-Lywydd y Société wedi iddo gael ei ethol i’r swydd honno yn ystod y gynhadledd flaenorol yn Valencia yn 2010.

SLiR yw cyhoeddwr un o gyfnodolion blaenllaw’r maes, y Revue de Linguistique Romane, a bu’r Athro Trotter yn aelod o’i bwyllgor golygyddol ers rhai blynyddoedd. Mae’n cynnal cynhadledd bob tair blynedd: yn 2004 cafodd ei chynnal yn Aberystwyth, yr unig achlysur hyd yma i’r gynhadledd gael ei chynnal yn Ynysoedd Prydain.

Dywedodd yr Athro Trotter: "Mae cael fy ethol yn Llywydd y Société de Linguistique Romane yn anrhydedd mawr. Fel cymdeithas wyddonol ryngwladol sy'n ymwneud â hanes, datblygiad, ac ieithyddiaeth yr ieithoedd Romáwns, mae SLiR yn cyhoeddi ac yn derbyn papurau cynhadledd yn unrhyw un o'r ieithoedd Romáwns, gan gynnwys y rhai a elwir yn ieithoedd "lleiafrifol", gan fod yr holl ieithoedd Romáwns yr un mor bwysig o safbwynt y "teulu" Romáwns.

"Mae'n mynd yn ei blaen ar y rhagdybiaeth bod ysgolheigion ieithoedd Romáwns naill ai'n medru siarad neu ddeall yr holl ieithoedd angenrheidiol, neu ddefnyddio "dealltwriaeth amlieithog", h.y. fod siaradwyr ieithoedd Romáwns yn medru deall ieithoedd Romáwns eraill, hyd yn oed os nad ydynt o reidrwydd yn gallu eu siarad.

"Byddai diwrnod nodweddiadol mewn cyngres SLiR yn golygu gwrando ar bapurau academaidd a draddodir mewn pump neu chwech o ieithoedd Romáwns, a siarad tair neu bedair ohonynt. Mae ieithoedd ar wahân i'r ieithoedd Romáwns yn cael eu heithrio, ac felly nid yw’r Saesneg yn dderbyniol, sy’n anarferol y dyddiau yma," ychwanegodd.

AU26913