Dathlu 2013

Aelodau o dîm IBERS yn dathlu yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education.

Aelodau o dîm IBERS yn dathlu yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education.

23 Rhagfyr 2013

Ionawr
Tywyllu rewlifoedd yr Arctig
Ymchwilwyr o Aberystwyth wedi mesur y “gyllideb ficrobig” ar wyneb rhewlif am y tro cyntaf, gan ddarganfod sut y mae bacteria yn cynorthwyo i doddi rhewlifoedd.

Chwefror
Pobl sydd yn annog ffordd wyrdd o fyw
Mae astudiaeth ymchwil a gynhaliwyd gan gymrawd yma yn awgrymu bod pobl sy'n lleihau eu hôl troed carbon yn cael eu cymell gan helpu'r rhai a effeithir gan newid yn yr hinsawdd yn fwy na thrwy 'achub y blaned'.

Mawrth
Darganfyddiad graffin
Mae Ffisegwyr Defnyddiau o Sefydliad Mathemateg a Ffiseg (IMAPS), wedi darganfod dull newydd o gynhyrchu graffin, defnydd ag eiddo optegol a thrydanol anhygoel.

Ebrill
Y fasnach mewn pobl
Astudiaeth newydd gan yr Athro yn y Gyfraith, Ryszard Piotrowicz, yn sail i ymgyrch bwysig i ddiogelu hawliau dioddefwyr y fasnach mewn pobl.

Mai
Cymeradwyo cymorth gadael gofal
Derbyniodd y Brifysgol adroddiad gwych gan Buttle UK, yr elusen fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi er mwyn rhoi cyfle teg iddynt.

Mehefin
Llwyddiant mawr diwrnod agored
Mwy na 400 o bobl yn ymweld â Mynediad am Ddim, diwrnod agored cymunedol y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin.

Gorffennaf
Cymrodyr er Anrhydedd 2013
Cafodd deg Cymrawd eu hanrhydeddu yn ystod Seremonïau Graddio eleni. Cyflwynir y teitl o Gymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus a chanddynt gysylltiad agos â’r Brifysgol neu rai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Campws arloesi £35 miliwn
Fe wnaeth y Brifysgol gyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan a fydd yn cael ei adnabod fel Campws Aberystwyth ar gyfer Arloesi a Lledaenu.

Awst
Preswylfeydd £45m newydd i fyfyrwyr
Preswylfeydd newydd Fferm Penglais i agor ym mis Medi 2014 wedi i’r datblygwr, Balfour Beatty, sicrhau cefnogaeth buddsoddwyr ar gyfer y cynllun.

Medi
Llwybrau at arweinyddiaeth gwybodaeth
Mae Aberystwyth wedi ymuno ag Emerald Group, cyhoeddwr byd-eang blaenllaw ym maes ymchwil llyfrgell a rheoli gwybodaeth yn rhyngwladol ac ASLIB, y gymdeithas rheoli gwybodaeth, i gynnig achrediad addysg uwch i weithwyr a chyflogwyr ar draws y byd mewn arweinyddiaeth gwybodaeth.

Hydref
£14.2m i’r dyniaethau a’r celfyddydau
Mae Consortiwm y De, Gorllewin a Chymru, sy’n cynnwys Prifysgol Aberystwyth a saith o brifysgolion eraill sef Caerfaddon, Caerfaddon Spa, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Reading a Southampton, wedi derbyn £14.2 miliwn o gyllid gan Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a'r Celfyddydau (AHRC) dros y bum mlynedd nesaf i ddarparu goruchwyliaeth, hyfforddiant a datblygu sgiliau ôl-raddedig o 2014 ymlaen.

Tachwedd
Llwyddiant i Aber yng ngwobrau’r Times Higher
Fe enillodd IBERS wobr categori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education.

Rhagfyr
Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn diogelu £2.1 miliwn
Mae’r Athro Peter Midmore yn arwain ar brosiect gwerth £2.1 miliwn i ymchwilio i sut mae ymchwil wyddonol ar amaethyddiaeth yn effeithio’r economi, cymdeithas a'r amgylchedd yn Ewrop.

AU44613