Dr Huw Morgan yn ennill gwobr er cof am ysgolhaig ifanc

Dr Huw Morgan

Dr Huw Morgan

10 Chwefror 2014

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu gwobr newydd er cof am Dr Eilir Hedd Morgan, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor o dan nawdd y Coleg, a laddwyd mewn damwain y llynedd. 

Bydd y wobr flynyddol yn cael ei chyflwyno i unigolyn o dan ddeugain mlwydd oed sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dr Huw Morgan, darlithydd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn derbyn y wobr eleni, a hynny yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yng Nghaerfyrddin nos Fawrth 18 Chwefror 2014. 

Seryddiaeth a chysawd yr haul yw prif arbenigedd yr academydd o Lanbrynmair. Cafodd ei benodi i swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan nawdd y Coleg yn 2011 wedi cyfnod o weithio fel Ymchwilydd Gwyddonol ym Mhrifysgol Hawaii. 

Yn ôl y Dr Huw Morgan, “‘Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr i mi. Rwy'n ddiolchgar iawn i deulu Eilir am sefydlu’r wobr gan ei fod yn gam pwysig i annog Cymry Cymraeg ifanc i ddewis a dilyn gyrfa wyddonol. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Coleg Cymraeg am ddarparu'r cyfle i mi barhau â gyrfa ym maes gwyddoniaeth ac i fedru addysgu fy mhwnc gyda phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg." 

Yn ystod y Cynulliad, bydd pedwar ysgolhaig blaenllaw yn derbyn Cymrodoriaeth gan y Coleg er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. 

Bydd Cyn bennaeth Astudiaethau Ieithyddol Prifysgol Morgannwg, Cennard Davies yn derbyn cymrodoriaeth gan y Coleg fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad sylweddol i faes Cymraeg i Oedolion ag addysg Gymraeg yng nghymoedd Morgannwg a thu hwnt. 

Trwy gydol ei gyrfa academaidd bu’r Athro Elan Closs Stephens yn hyrwyddo astudio drwy’r Gymraeg. Hi oedd y penodiad cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fel Pennaeth Adran sicrhaodd benodiadau eraill i gryfhau’r ddarpariaeth. 

Bu’r Dr Alison Allan yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am dros ugain mlynedd lle bu’n brif gyswllt gyda’r prifysgolion ar faterion yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Chwaraeodd ran allweddol yn y camau a arweiniodd at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Yn olaf, bydd Cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, Dr Cen Williams yn cael ei urddo’n Gymrawd. Yn ystod ei gyfnod ar secondiad gydag Uned Datblygu Addysg Gymraeg, Prifysgol Cymru bu’n gyfrifol am sefydlu sawl menter sydd bellach yn parhau o dan adain y Coleg Cymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys hybu darpariaeth gydweithredol a sefydlu paneli pwnc sydd yn rhoi cyfle i academyddion cyfrwng Cymraeg gyd-drafod a chyd-gynllunio. 

Meddai’r Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Pleser o’r mwyaf fydd urddo pedwar sydd wedi cyflawni cymaint dros addysg cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd yng Nghynulliad y Coleg eleni. Edrychwn ymlaen at eu hanrhydeddu yn ogystal â manteisio ar y cyfle i longyfarch y myfyrwyr hynny sydd wedi sicrhau doethuriaeth o dan nawdd y Coleg.’’

AU6614