Dathlu Gŵyl Dewi Sant

24 Chwefror 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwng dydd Gwener 28 Chwefror a dydd Gwener 7 Mawrth i ddathlu diwrnod Nawdd Sant Cymru, Dewi Sant.

Bydd y rhaglen yn dechrau gyda’r gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi blynyddol yng Nghapel y Brifysgol a gynhelir eleni am 12.30 brynhawn Gwener 28 Chwefror o dan arweiniad Dr Owain Roberts.

Ar ddydd Mercher 5 Mawrth bydd yr hanesydd Dr Russell Davies yn cynnal sgwrs ysgafn ar hanes Dewi Sant a’i gyfraniad i hanes Cymru.

“Er mai am grefydd y mae Dewi Sant enwocaf, maen werth nodi hefyd ei fod yn gyfrifol am rhai o ofergoelion unigryw Cymru”, dywedodd Dr Davies.

“Yn ôl y son, pan fu Dewi farw, fe ofynnodd i Dduw ganiatáu i’r Cymry gael rhagwelediad o’u marwolaeth. Dyna felly darddiad cred y ‘gannwyll corf’ - y golau a welir yn aml yn rhybuddio am farwolaeth yn yr ardal.

“Rhywbeth arall a gysylltir â’r Seintiau yw gwyrthiau.  Yr un enwocaf sy’n gysylltiedig â Dewi oedd creu bryn yn Llanddewi Brefi er mwyn galluogi’r dyrfa oedd wedi ymgasglu i’w glywed a’i weld. 

“Cawn hefyd gyfle i ystyried neges Dewi i ni i “wneud y pethau bychain”.”

Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, sef dydd Sadwrn 1 Mawrth, cynhelir Parêd Gŵyl Dewi yng nghanol tref Aberystwyth ac a fydd yn dechrau am 1 y prynhawn wrth Gloc y Dre.

Ar ddydd Llun y 3ydd bydd cyfle i wylio’r gyfres deledu Pen Talar sy’n dilyn siwrne epig dau ffrind, a hanes cenedl dros hanner canrif, o’r 60au cynnar. Dangosir y gyfres 9 pennod, sy’n cynnwys Richard Harrington, gydag is-deitlau yn Saesneg yn y ‘Picture House’ yn Undeb y Myfyrwyr.

Ar nos Fawrth y 4ydd mae UMCA yn cynnal Gig Gŵyl Dewi, yn Undeb y Myfyrwyr – cyfle i glywed bandiau Cymreig ifanc yn dangos eu doniau.

Ar ddydd Iau’r 6ed bydd cyfle i gyfarfod am goffi a sgwrs yng Nghanolfan y Celfyddydau, a daw’r dathlu i ben gyda noson o gawl a cherddoriaeth ar nos Wener y 7fed, eto yn Undeb y Myfyrwyr.

Fe fydd detholiad arbennig o fwyd a danteithion Cymreig ar gael hefyd yn ystod yr wythnos yn y bwytai a’r caffis ar draws Campws Penglais.

AU1514