Cymrawd wedi’i anrhydeddu

Dr Glyn Rowlands BSc PhD, Is-Lywydd, yr Athro Douglas Kell CBE, Cymrawd a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor

Dr Glyn Rowlands BSc PhD, Is-Lywydd, yr Athro Douglas Kell CBE, Cymrawd a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor

28 Chwefror 2014

Dychwelodd yr Athro Douglas Kell CBE i Brifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 28 Chwefror) er mwyn ei wobrwyo gyda Chymrodoriaeth y Brifysgol, ac i roi darlith gyhoeddus ar sut y bydd gwyddoniaeth yn achub y blaned.

Dechreuodd yr Athro Kell ei yrfa fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi ennill sawl gwobr academaidd a chafodd ei benodi'n Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn 2008. Ymddeolodd o'r rôl hon y llynedd ac mae bellach yn Athro Gwyddor Bioddadansoddol ym Mhrifysgol Manceinion.

Cafodd y ddarlith a’i henwir How science will save the planet: what research is and how it is funded, ei chynnal yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol gan ddilyn gyda sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig).

I gloi ymweliad y prynhawn, cyflwynodd yr Athro Powell ef i Is-Lywydd y Brifysgol, Dr Glyn Rowlands, ar gyfer ei gyflwyno gyda’r Gymrodoriaeth.

Fe dderbyniodd yr Athro Kell y cynnig o Gymrodoriaeth yng Ngorffennaf 2013, ond nid oedd yn gallu dod i'r seremonïau graddio oherwydd ymrwymiadau hir sefydlog.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Y teitl Cymrawd yw'r anrhydedd uchaf posibl a ddyfernir gan y Brifysgol ac mae'n cydnabod unigolion nodedig sydd â chysylltiad agos ag Aberystwyth, neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

"Roedd hi’n bleser cael croesawu Doug yn ôl i Aberystwyth a gallu cydnabod yn gyhoeddus ei gyfraniad cyson a rhagorol i wyddoniaeth. Rydym yn dymuno pob lwc iddo gyda'i waith ymchwil ac ymdrechion yn y dyfodol."

Ychwanegodd yr Athro Wayne Powell, "Mae’r Athro Kell wedi gwneud cyfraniad enfawr i wyddoniaeth fel ymchwilydd ymarfer a rôl arweinyddiaeth genedlaethol. Roedd ei gyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol y BBSRC yn ddylanwadol iawn ac yn llunio'r agenda Rhagoriaeth Gydag Effaith o fewn y Deyrnas Gyfunol ac ar draws y Cynghorau Ymchwil. Mae hefyd yn llysgennad ardderchog i Brifysgol Aberystwyth a'r ardal leol ac mae'n wych gweld Douglas yn dychwelyd at ei wreiddiau academaidd."

Yn academydd o fri, dechreuodd yr Athro Kell ei yrfa yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1983 lle cafodd ei ddyrchafu i Gadair Bersonol. O 1997-2002 bu'n Gyfarwyddwr Ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol.

Mae ei gyflawniadau gwyddonol yn cynnwys datblygu a defnyddio llawer o ddulliau dadansoddol newydd. Roedd Aber Instruments, cwmni wnaeth sefydlu ar y cyd, dderbyn Gwobr y Frenhines am Allforio Llwyddiant yn 1998. Mae wedi bod yn arloeswr mewn amrywiaeth o feysydd bioleg cyfrifiadol a metabolomeg arbrofol. Fe wnaeth hefyd gyfrannu at ddarganfod y cytokine bacteriol cyntaf sydd ar hyn o bryd ar brawf fel rhan o frechlyn yn erbyn twbercwlosis. 

AU9414