Darlith ar newid hinsawdd

Yr Athro Henry Lamb

Yr Athro Henry Lamb

06 Mawrth 2014

Bydd yr Athro Henry Lamb o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod  sut mae cofnodion o waddodion llynnoedd a’u cyfraniadau wedi eu cysylltu â newid yn yr hinsawdd ag esblygiad dynol, yn ffisegol a diwylliannol, ar nos Fawrth 6 Mawrth 2014.

Mae’r ddarlith “Bones, genes, stones and mud: testing hypotheses of climate change and human origins”, yn rhan o gyfres darlithoedd Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).

Caiff ei chynnal ym mhrif ddarlithfa Bioleg yn Adeilad Edward Llwyd ar Gampws Penglais.

Mae'r digwyddiad yn dechrau am 6.30 yr hwyr, yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.

Bydd yr Athro Lamb yn defnyddio enghreifftiau o’i waith diweddar yn Ethiopia, yn enwedig ar y cofnod 250,000 mlwydd oedd palaeoamgylcheddol o Lyn Tana, sef ffynhonnell y Nil Las, ac ymchwil a gynlluniwyd yn y Dyffryn Hollt (Rift Valley) yn Ne Ethiopia.

Mae’r Athro Lamb wedi gweithio ar hanes amgylcheddol Ethiopia ers bron i 20 mlynedd, a hynny o greiddiau gwaddodion llynnoedd mewn sawl rhan o’r wlad amrywiol hon.

Ei brif ddiddordebau ymchwil yw newid amgylcheddol cwaternaidd, ac mae’n arbenigo ar gofnodion gwaddodion llynnoedd o newid yn yr hinsawdd ac mewn planhigion.

AU5614