Law in the Polity of Wales

Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd

Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd

07 Mawrth 2014

Bydd Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, yn darlithio ar “Law and the Polity of Wales” yn y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar ddydd Gwener 7 Mawrth 20014.

Cynhelir y ddarlith yn Ystafell T1 yn Adeilad Elystan Morgan, Canolfan Llanbadarn, a bydd yn dechrau am 6 yr hwyr.

Cafodd y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ei benodi yn Farnwr yn Uchel Lys Cymru a Lloegr yn 1996 ac eisteddodd yn Adran Mainc y Frenhines a’r Llys Masnach yn Llundain, ei wneud yn Farnwr â Gofal y Llys o fis Ebrill 2002 tan fis Gorffennaf 2003, pryd y cafodd ei benodi’n Arglwydd Ustus Apêl.

Ef oedd Uwch Farnwr Llywyddol Cymru a Lloegr o 2003 tan 2006.

O 2008 tan fis Hydref 2011 roedd yn Is-Lywydd Adran Mainc y Frenhines ac yna’n Llywydd Adran Mainc y Frenhines o fis Hydref 2011 tan fis Hydref 2013.

Bu’n Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ers mis Hydref 2013.

O fis Mai 2008 tan fis Rhagfyr 2010 ef oedd Llywydd Rhwydwaith Ewropeaidd o Gynghorau i’r Farnwriaeth.

Y mae’n Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg Trinity Hall, Caergrawnt, yn Gymrawd ym Mhrifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Abertawe a Bangor ac yn Ddoethur Anrhydeddus yn y Gyfraith ym Mhrifysgolion De Cymru, Gorllewin Lloegr a Chymru.

AU5514