Ymwelydd o Bendraw'r Byd

Dr John Gee o IBERS gyda Dana Barringham o Sydney, Awstralia

Dr John Gee o IBERS gyda Dana Barringham o Sydney, Awstralia

12 Mawrth 2014

Roedd tref Aberystwyth ar ei gorau ar gyfer y diwrnod ymweld diweddaraf, â’r haul yn tywynnu’n braf.

Ymhlith y cannoedd o ddarpar fyfyrwyr a deithiodd i Aberystwyth i drafod eu hopsiynau astudio yr oedd Dana Barringham o Sydney , Awstralia .

Mae Dana ar ymweliad wythnos â Chymru ac wedi hedfan i mewn yn arbennig i fynychu'r diwrnod ymweld, ac yn benodol i siarad â staff Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig am y cyrsiau sydd o ddiddordeb iddi, sŵoleg a gwyddorau bywyd.

Yn wreiddiol o Utah yn yr Unol Daleithiau, symudodd Dana i Sydney ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae wedi penderfynu y byddai'n hoffi astudio yma yn y Deyrnas Gyfunol.

“Bu’n freuddwyd gen i ar hyd yr amser i astudio yn y DG ac rwyf wedi penderfynu ymweld â rhai prifysgolion i weld beth sydd ganddynt i'w gynnig. Mae Cymru mor hardd, yn hollol hyfryd, ac mae'n braf ac yn oer o’i chymharu ag Awstralia.”

Petai Dana yn dewis astudio yng Nghymru , byddai'n dychwelyd i wlad ei chyndeidiau. Mae'n credu bod rhai o'i chyndeidiau ymhlith rhai o'r ymsefydlwyr cynharaf i adael gwledydd Prydain ac ymfudo i’r Unol Daleithiau, o Gymru ac o ganolbarth Lloegr.

 

AU11314