Taclo heriau ynnu gwyrdd

Edwina Hart yn lansio Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012.

Edwina Hart yn lansio Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012.

12 Mawrth 2014

Mae Rhwydwaith Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd, menter ar draws Cymru sy’n cael ei harwain gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor, yn un o dri phrosiect sy’n rhannu £21m o gyllid fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, Sêr Cymru.

Dyfarnwyd £7m i’r Rhwydwaith er mwyn penodi myfyrwyr PhD a chymrodyr i ddatblygu ymchwil newydd ac i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru.

Yr Athro David N Thomas, Athro Bioleg Môr yn Ysgol Gwyddorau’r Môr ym  Mangor, sy’n arwain y rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng tîr, dŵr, darparu bwyd a chynhyrchu ynni, a sut y gellir eu cynnal er mwyn diwallu anghenion cymdeithas, yn arbennig yng ngwyneb heriau newid hinsawdd.

Mae’r Athro Thomas wedi gweithio fel ymchwilydd yn yr Almaen, Denmarc a’r Ffindir. Dywedodd: “Prif nod y rhwydwaith hwn yw edrych ar sut y gallwn integreiddio ein hadnoddau naturiol er mwyn diogelu sicrwydd cyflenwad ynni, dŵr a bwyd tra’n cynnal y buddion mae ein tîr, afonydd, llynoedd a’r dyfroedd ar hyd y glannau yn eu darparu.”

“Mae hyn yn galw am ffordd newydd o weithio, un fydd yn dod â gwyddonwyr o ddisgyblaethau a sefydliadau gwahanol i weithio gyda’i gilydd, a’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy rwydwaith ymchwil cenedlaethol.”

Er bod y Rhwydwaith yn cael ei arwain gan Gynghrair Strategol Aberystwyth-Bangor, mae’n cynnwys partneriaid o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe, Caerdydd a  De Cymru, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Arolwg Daearegol Prydeinig Cymru, a Swyddfa Dywydd y Deyrnas Gyfunol (UK MetOffice).

Ceir mwy o wybodaeth am y rhwydwaith yma: http://nrn-lcee.bangor.ac.uk

Cyhoeddwyd y cyllid gan Weinidog Economi a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, ar ddydd Iau 13 Mawrth ac mae’n nodi cwblhau rhan un o raglen Sêr Cymru gafodd ei lansio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym Medi 2012 ac sydd â’r nod o ddenu talent gwyddonol i Gymru.

Y ddau rwydwaith arall sydd wedi derbyn cyllid yw’r Rhwydwaith Uwch Beirianneg a Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe sy’n cael ei arwain gan Yr Athro Javier Bonet, a Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd ac Iechyd Prifysgol Caerdydd o dan arweiniad yr Athrawon Malcolm Mason a Chris McGuigan.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Edwina Hart:  “Mae gwyddoniaeth ac arloesi yn gonglfeini allweddol i economi ffyniannus.  Os ydym am wella ein lles economaidd a chreu dyfodol ffyniannus i Gymru, mae’n rhaid i ni hybu ymchwil gwyddonol.  Mae ymchwilwyr Cymru ymysg y gorau yn y byd o ran yr arian a fuddsoddir.  Mae Rhwydweithiau Sêr Cymru yn ceisio cynyddu’r arian a fuddsoddir yng ngwyddorau Cymru trwy gefnogi a rhagori ym maes ymchwil.”

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:  “Fel y dengys adroddiad Elsevier, mae ymchwil o ansawdd uchel a rhagorol eisoes yn cael ei wneud yma yng Nghymru ond mae angen i ni wneud mwy.  Bydd y rhwydweithiau hyn yn ein helpu i gyflawni mwy yn y meysydd sydd â’r potensial i greu buddiannau economaidd a chymdeithasol hirdymor yng Nghymru a thu hwnt; mae prosiectau cyffrous eisoes ar waith.  Er enghraifft, mae uno’r rhwydweithiau’n gwneud ymchwil i laswelltir all amsugno mwy o ddŵr glaw er mwyn lleihau llifogydd, deunyddiau adeiladu sy’n defnyddio’r haul i gynhyrchu ynni a thriniaethau newydd ar gyfer rhai o’n clefydau mwyaf heriol.”

AU10514