‘Florence Taylor’ yn cipio gwobr £20,000

Lucy-Jane Newman gyda Chadeirydd y beirniaid, yr Athro Donald Davies

Lucy-Jane Newman gyda Chadeirydd y beirniaid, yr Athro Donald Davies

25 Mawrth 2014

Enillydd GwobrCaisDyfeisio 2014, fersiwn Prifysgol Aberystwyth o Dragon’s Den sydd werth £20,000 i’r enillydd, yw Lucy-Jane Newman.

Roedd Lucy, sydd yn ei blwyddyn olaf yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth, yn un o 5 i gyrraedd y rownd derfynol a chyflwyno’i chynllun busnes i banel o arbenigwyr ar 24 Mawrth.

Derbyniodd ei syniad buddugol, ‘Florence Taylor’ - menter i weithgynhyrchu a gwerthu offer harddwch wedi eu gwneud â llaw ym Mhrydain, glod mawr gan y panel.

Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Lucy; “Rwyf wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar y syniad busnes hwn ers dwy flynedd. Gan fod y farchnad swyddi ar gyfer graddedigion mor gystadleuol ag erioed, mae ennill GwobrCaisDyfeisio yn eithriadol o werthfawr. Mi fydd yn fy ngalluogi i greu fy swydd fy hunan drwy lansio Florence Taylor fel menter llawn amser unwaith y byddaf wedi graddio ym mis Gorffennaf.” 

Dywedodd Cadeirydd y Beirniaid, yr Athro Donald Davies, un o sefydlwyr ML Laboratories plc a chyn fyfyriwr o Aber; “Llongyfarchiadau cynhesaf i  Lucy-Jane Newman ar ennill GwobrCaisDyfeisio 2014. Roedd y panel yn llawn edmygedd o'r nifer a chwmpas y ceisiadau ac roedd yn dasg anodd iawn wrth ddewis y rhai oedd i wneud cyflwyniad. Roedd nifer o gynigion arloesol ac ym marn y panel roedd gan lawer y potensial i ddatblygu yn fusnesau hyfyw.”

“Yn dilyn llwyddiant enillydd y llynedd, Jake Stainer o wefan iaith Papora, rydym yn edrych ymlaen at ddilyn cynnydd Lucy wrth iddi weithio i sefydlu 'Florence Taylor'.”

Mae GwobrCaisDyfeisio’n gystadleuaeth syniad busnes gwreiddiol i fyfyrwyr a gynlluniwyd i roi cefnogaeth hanfodol a chymorth ariannol i syniad busnes yn ei gyfnod cynnar, ac sydd â’r potensial i serennu. Mae’r beirniaid yn banel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus.

Bellach yn ei ail flwyddyn, dechreuodd y broses yn ôl ym mis Tachwedd pan gafodd cystadleuaeth GwobrCaisDyfeisio 2014 ei lansio. Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr oedd â diddordeb mewn gwneud cais gymryd rhan mewn gweithdai sgiliau busnes, cael eu hysbrydoli gan entrepreneuriaid llwyddiannus, a manteisio ar gyfleoedd i dderbyn cyngor a mentora er mwyn mireinio eu cynllun busnes.

Gyda diddordeb yn y gystadleuaeth o bob cwr o'r Brifysgol, esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter, sut yr aethpwyd ati i ddewis y rhai ar gyfer y rownd derfynol. “Cafodd y ceisiadau eu hadolygu gan ein panel o feirniaid sy’n gyn-fyfyrwyr ac sydd rhyngddynt yn meddu ar gyfoeth graffter entrepreneuriaid a busnes, a phrofiad o weithio ar draws amrywiaeth o sectorau diwydiannol. O'r ceisiadau a dderbyniwyd, gwahoddwyd pump i gyflwyno’u syniadau i Ffau’r Dreigiau a chystadlu am y wobr sydd werth £20,000.”

Ceir manylion am y pump fu’n cyflwyno eu syniadau i’r Dreigiau yn y rownd derfynol yma: http://jump.aber.ac.uk/?cqcg

Trefnir GwobrCaisDyfeisio gan Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi mewn partneriaeth gyda’r Adran Ddatblygu a Chysylltiadau Alumni a chyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr drwy’r Gronfa Flynyddol 2013/14.

Panel beirniaid GwobrCaisDyfeisio oedd:

Jane Clayton – Mae Jane yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn Gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Hi ar hyn o bryd yw Cadeirydd Bay Leisure Limited a Thrysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.

Donald Davies – Athro Emeritws mewn Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Chyfarwyddwr Sylfaen ML Laboratories plc (deunydd fferyllol) un o'r cwmnïau biodechnoleg cyntaf i'w restru ar Farchnad Stoc Llundain.

Nigel Davies – Ar ôl graddio ac ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio am 30 mlynedd mewn technoleg gorfforaethol a busnes. Yn 2003 ef oedd cyfarwyddwr sylfaen Innoval Technology, sy'n ymgynghoriaeth yn seiliedig ar dechnoleg yn y DU, ac sydd â chleientiaid yn fyd-eang.

Peter Gradwell – Astudiodd Peter Beirianneg Meddalwedd yn Aber, gan raddio yn 2002. Tra'r oedd yn y Brifysgol sefydlodd ei gwmni cyfathrebu rhyngrwyd ei hun, Gradwell dot com Ltd sydd erbyn hyn yn cyflogi 65 o bobl ac sydd ag incwm blynyddol sydd dros £7m.

Huw Morgan - Cyn Bennaeth Bancio Busnes, Banc HSBC plc, gweithiodd Huw i HSBC am y rhan fwyaf o'i yrfa. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfreintio yn y Deyrnas Gyfunol.

David Sargen - David yw Partner Rheoli Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sy’n darparu arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o fewn y diwydiant ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau fyd-eang.

AU12614