Undeb Myfyrwyr ar restr fer gwobrau

Swyddogion Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2013/14. Chwith i’r Dde: Liv Prewett - Swyddog Gweithgareddau, Grace Burton - Swyddog Addysg, Ioan Rhys Evans - Llywydd yr Undeb, Laura Dickens - Swyddog Lles Myfyrwyr,  Mared Ifan - Materion Cymreig a Llywydd UMCA

Swyddogion Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2013/14. Chwith i’r Dde: Liv Prewett - Swyddog Gweithgareddau, Grace Burton - Swyddog Addysg, Ioan Rhys Evans - Llywydd yr Undeb, Laura Dickens - Swyddog Lles Myfyrwyr, Mared Ifan - Materion Cymreig a Llywydd UMCA

26 Mawrth 2014

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer tair gwobr yng Ngwobrau UCM Cymru 2014.

Mae’r Undeb wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn; Ymgyrch y Flwyddyn am ymgyrch gartrefedd Laura Dickens, y Swyddog Lles; a Thîm Swyddogion y Flwyddyn.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol; “Rwy'n falch iawn bod Undeb y Myfyrwyr a thîm swyddogion yn yr Undeb, wedi cael eu cydnabod am eu holl waith caled.

"Mae llais y myfyrwyr yn hynod o bwysig yn Aberystwyth ac yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr, ac mae’r tîm o swyddogion i’w llongyfarch am ddarparu profiad gwych i bob un o’n myfyrwyr.”

Esboniodd John Glasby, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; “Rwy'n hynod falch bod Undeb Myfyrwyr Aber wedi ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau cenedlaethol, yn enwedig Undeb Addysg Uwch y Flwyddyn. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad staff a swyddogion sydd wedi profi 18 mis anodd wrth i ni geisio trawsnewid y sefydliad fel ei fod yn darparu ar gyfer anghenion myfyrwyr y dyfodol. Mae gennym ffordd bell i fynd, ond mae llawer eisoes wedi ei gyflawni ac mae'n braf iawn gweld hyn yn cael ei gydnabod gan ein cymheiriaid.”

Derbyniwyd mwy na 90 o enwebiadau, a bydd yr enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi heno, nos Fercher 26 Mawrth, yng nghinio blynyddol Gwobrau UCM Cymru.

 

AU13214