Entrepreneuriaid Cymru

Campws Penglais

Campws Penglais

26 Mawrth 2014

Caiff busnesau o bob cwr o'r Canolbarth gyfle i ddweud eu dweud ar fentergarwch busnes yn y rhanbarth drwy gymryd rhan mewn trafodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Wener, 26 Mawrth 2014.

Digwyddiad ‘Entrepreneuriaid Cymru’, a drefnir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau llwyddiannus a gynhaliwyd ledled Cymru.

Caiff pobl y cyfle i glywed gan fentrwyr profiadol, holi aelodau o'r panel a chymryd rhan yn y drafodaeth. 'Gwneud Cymru'n lle i fentrwyr ffynnu ac i gynnal busnes ynddo' fydd thema'r noson, ac mae'n siŵr o ysgogi trafodaeth fywiog, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio.

“Mae busnesau bychain yn wneud cyfraniad hollbwysig i economi'r Canolbarth. Dyma gyfle heb ei ail i fentrwyr a busneswyr lleol gael ysbrydoliaeth gan fentrwyr llwyddiannus ac i drafod rhai o'r heriau cyfoes i fusnesau yng Nghymru" meddai Andrew Henley, Athro Mentergarwch a Datblygu Economaidd Rhanbarthol, a Chyfarwyddwr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, y Dr Rhodri Llwyd Morgan: “Un o brif amcanion strategol Prifysgol Aberystwyth yw gweithio mewn partneriaeth a hybu cydweithredu â chyflogwyr a busnesau i gyfoethogi profiad ein myfyrwyr, ein staff a'n partneriaid. Mae'r Brifysgol wrth ei bodd o gael cynnal y digwyddiad hwn a darparu llwyfan i hybu menter, a chael cyfraniadau gan gymuned busnes y rhanbarth i'r drafodaeth ddiddorol hon.”

Sarah Dickins, Gohebydd BBC Cymru ar yr Economi fydd yn llywio’r noson a bydd cyflwyniadau gan:

  • Peter Saunders (@PeterSaunders) – mentrwr o fri, angel busnes a chymwynaswr.  Bydd Peter yn siarad am ei brofiad fel un o fentrwyr mwyaf llwyddiannus Cymru a’i waith presennol yn rhoi help  ariannol i syniadau am fusnesau newydd sy’n cael eu gwrthod gan sefydliadau ariannol.
  • Tim Morgan (@thetimmorgan) - sylfaenydd Mint Digital, sydd â swyddfeydd yn Llundain ac Efrog Newydd.  Bydd Tim yn siarad am y dulliau arloesol a ddefnyddid ganddynt i feithrin eu busnes a dal ati i ddatblygu’u busnes mewn ffyrdd diddorol ac amrywiol.  ‘Desk Beers’, yw eu llwyddiant diweddaraf, yn arwain y ffasiwn am ddethol cwrw crefft a'i ddosbarthu i swyddfeydd ar brynhawniau Gwener. 
  • Andy Moore (@andygoosemoore ) - cewch glywed beth sydd gan gyn gapten tîm rygbi Cymru a sylfaenydd a Chyfarwyddwr ACT Pathway  i’w ddweud am chwaraeon elît a busnes a sut gall mentrwyr busnes elwa drwy ystyried ymddygiad a phrosesau dysgu ein hathletwyr gorau.

Bydd rhwydweithio a lluniaeth ar gael o 5.00pm gyda thrafodaeth y noson yn dechrau am 5.45pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, gweler: http://business.wales.gov.uk/entwales2013

Neu fel arall cysyllter â: businesssupport@wales.gsi.gov.uk

AU10614