Myfyrwraig Aber yn cipio gwobr KESS

Ally Evans yn derbyn y wobr oddi wrth Gary Reed,  Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesedd Prifysgol Aberystwyth.

Ally Evans yn derbyn y wobr oddi wrth Gary Reed, Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesedd Prifysgol Aberystwyth.

20 Mai 2014

Enillodd Ally Evans, myfyrwraig Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS), y wobr am y cyflwyniad ymchwil gorau yn noson wobrau blynyddol KESS gafodd ei chynnal yn Aberystwyth ar nos Fercher 14 Mai.

Yn ystod y noson bu Myfyrwyr, academyddion a chwmnïau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn her cyflwyno ymchwil lle’r oedd gofyn i bob cyfranogwr gyflwyno amlinelliad o’i brosiect PhD/Mhres o fewn 3 munud.

Brwydrodd ysgolheigion KESS o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru am wobr glodfawr KESS.  

Ymdriniwyd ag amrywiaeth o bynciau gan y myfyrwyr:

  • Jennifer Marshall - “Meithrin gallu a sgiliau trosglwyddo iaith yn yr economi ddigidol yng Nghymru"
  • Jennifer Edwards – “Sgrinio nifer o gynnyrch naturiol sy'n deillio o blanhigion ar gyfer lladd llyngyr.”
  • Sophie Mitchell – “Rhaglen Newid Ymddygiad Aml-elfen i Gynyddu Gweithgarwch Corfforol ymysg Plant mewn Ysgolion Cynradd”
  • Cate Williams - “Effeithiau lipasau rwmen bacteriol ar fetaboledd lipid rwmenol”
  • Christopher Phillips – “Imiwnotherapi ar gyfer Heintiad C.difficile Difrifol”
  • Raha Rahbari – “Defnyddio Microsfferau sy'n cynnwys Cyffuriau gyda Phatsys Hydrogel i Drin Psoriasis”
  • Phil Harper – “Pro-gyffuriau Gwrth-ganser Newydd”
  • Ceri Ann Jones – “Profi effaith Cynllun Matras ar Ansawdd Cwsg pobl sy'n cael Problemau â Gwaelod y Cefn”
  • Amy Roberts-Mitchell – “Gwerthusiad Rheoledig o Raglen Bwyta’n Iach Food Dudes ar gyfer plant mewn Ysgolion Arbennig”
  • Ally Evans –  “Strwythurau Amddiffyn yr Arfordir fel Cynefinoedd yn lle Glannau Creigiog Naturiol”

 

Mae holl bosteri a chyflwyniadau PowerPoint y myfyrwyr ar gael ar wefan KESS, http://www.higherskillswales.co.uk/kess/.

Bydd fideos o'r achlysur yn dilyn yn yr wythnosau i ddod a bydd y rhain ar gael ar Sianel Youtube KESS, sef KESS Bangor

Ar ôl proses bleidleisio drylwyr, enillydd gwobr KESS 2014 oedd Ally Evans o Brifysgol Aberystwyth.

Ar ôl ennill y wobr, dywedodd Ally: “Roedd yn grêt cael y cyfle i hyrwyddo ein hymchwil i ystafell yn llawn o bobl o’r byd academaidd a diwydiant. Rydw i wrth fy modd bod ein gwaith ni wedi dod i’r brig o blith yr holl waith ymchwil gwych sydd ar droed yng Nghymru. Gobeithio y bydd y wobr yn codi proffil ein gwaith ymysg y bobl hynny sy'n ymwneud â rheoli cadwraeth forol ac yn eu hannog i fabwysiadu ein canfyddiadau yng nghyswllt datblygiadau ym maes amddiffyn yr arfordir yn y dyfodol.”

Dr Penny Dowdney, Rheolwr Prosiect KESS. “Roedd safon y gwaith ymchwil yn y cyflwyniadau eleni yn eithriadol ac yn dangos bod angen prosiectau ymchwil cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ar lefel PhD ac MRes, er mwyn datblygu a gyrru'r economi wybodaeth yn ei blaen yng Nghymru mewn modd gwirioneddol gyfannol.”  

Mae’r prosiect KESS yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, academyddion a chwmnïau gydweithio ar brosiect ymchwil sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y cwmni.

Menter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan yw Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch (HE) yng Nghymru. Caiff ei ariannu’n rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

I gael rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o brosiectau KESS, ewch i wefan KESS http://www.higherskillswales.co.uk/kess/

 

AU22514