Her Staff Aber870

Her Staff Aber870

Her Staff Aber870

23 Mai 2014

I ddathlu ail benblwydd agor Llwybr Arfordir Cymru, gwahoddir staff Prifysgol Aberystwyth i ymuno â Her Aber870, er mwyn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, Elusen y flwyddyn yr Is-Ganghellor ar gyfer 2013/14.

Gall staff ymrwymo i naill ai nofio, beicio, cerdded neu redeg pellter o'u dewis, a fydd gyda'i gilydd yn gyfwerth â hyd arfordir Cymru, tua 870 milltir.

Wrth siarad am yr her, meddai Jackie Sayce, un o’r cydlynwyr: "Rydym yn gofyn i gydweithwyr i dderbyn her Aber870 er mwyn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ein targed codi arian yw £ 870, ac rydym yn gobeithio y bydd y daith rithwir hon o gwmpas yr arfordir yn ein helpu i godi arian ar gyfer yr elusen deilwng hon."

A hithau yn ei hail flwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor yw codi arian hanfodol ar gyfer achos teilwng. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen i Gymru gyfan ac mae’n darparu gwasanaeth awyr brys i'r rhai sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.

Ers lansio’r gwasanaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cynnal dros 17,000 cyrch ac mae'n dibynnu'n llwyr ar gefnogaeth y cyhoedd am ei chyllid.

Mae angen i’r elusen godi £6 miliwn bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth ac mae pob cyrch yn costio £1,500 ar gyfartaledd.

Gall staff gymryd rhan drwy ddilyn tri cham syml:

  1. Ymrwymo i nofio, rhedeg, cerdded neu seiclo pellter o'u dewis;
  2. Cofrestru ar gyfe Aber870 drwy anfon e-bost at aber870@aber.ac.uk, a chadarnhau eu pellter targed;
  3. Ymrwymo i godi cymaint o arian ag sy'n bosibl i Ambiwlans Awyr Cymru trwy ymuno â thîm Aber870 Just Giving ar y dudalen: http://www.justgiving.com/AberUni-PrifAber1. Y targed codi arian yw £870.

Dilynwch @Aber870 ar twitter am y newyddion diweddaraf am Her Aber870.

Mae lansiad Her Aber870 hefyd yn cydfynd gydag ymgyrch Caru Arfordir Cymru, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.  Mae'r rhaglen yn fis o deithiau cerdded a digwyddiadau eraill i roi sylw i Lwybr Arfordir Cymru, ac i ddenu ymwelwyr i'r arfordir.  Mae gwybodaeth am yr ymgyrch i'w gweld ar wefan Llwybr Arfordir Cymru neu drwy ddefnyddio'r hashnod #caruarfordircymru ar Twitter.

 

AU19614