Gwobr Traethawd Hir yr Arglwydd Bryce

Dr Anja Gebel

Dr Anja Gebel

28 Mai 2014

Cafodd cyn fyfyrwraig PhD o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ei gwobrwyo gyda Gwobr Traethawd Hir Arglwydd Bryce yn ddiweddar gan y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Anja Gebel, myfyrwraig PhD yn Aberystwyth rhwng 2008 a 2012, am y traethawd hir PhD gorau ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol/Gwleidyddiaeth Gymharol.

Eglurodd Dr Jenny Mathers, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, "Mae hyn yn newyddion gwych i Anja ac mae hi’n llawn haeddu’r wobr. Mae hi wedi cyflawni llawer iawn gyda'i hymchwil ac rydym yn falch iawn drosti.

"Dyma'r trydydd flwyddyn yn olynol i draethawd ymchwil PhD a gynhyrchwyd yn yr Adran ennill gwobr o’r fath, ac mae’n dangos y safonau uchel y mae ein myfyrwyr PhD yn eu cyflawni."

Mae'r gwaith, sy'n dwyn y teitl Hegemony and Antagonism - Opening up the International Anti-Corruption Consensus yn edrych ar y modd y caiff ystyron llygredigaeth, gwleidyddiaeth ac economeg eu llunio a’u sefydlu drwy eu mynegiant yn nhrafodaethau’r IAC (International Anti-Corruption Group).

Ariannwyd ymchwil PhD Dr Gebel gan brosiect Economïau Gwleidyddol Democratiaeth y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, a oedd yn gynllun pedair blynedd (2008-2012).

Mae'r prosiect yn edrych yn feirniadol ac yn ceisio ei ailfeddwl yr agenda hybu democratiaeth gyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd. Ei brif ffocws yw creu gofod i ystyried y gwahanol 'fodelau gwleidyddol-economaidd o ddemocratiaeth' i hyrwyddo democratiaeth yn y byd sydd ohoni.

Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd o dan Raglen 7fed Fframwaith y Gymuned Ewropeaidd (2007-2013).

AU18714