Myfyrwyr PrentisAber yn datblygu ap hygyrchedd y Brifysgol

'Team Explore'

'Team Explore'

04 Mehefin 2014

Diolch i grant werth £15,000 gan yr Academi Addysg Uwch (AAU), bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn darparu ap hygyrchedd cyn hir a fydd yn helpu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr i lywio eu ffordd o gwmpas campws y Brifysgol, ac yn ystyried eu hanghenion anabledd.

Wnaeth y prosiect peilot amlddisgyblaethol a ariannwyd gan AAU Canolfan Pwnc Cyfrifiadura, weld nifer o dimau o’r Athrofa Rheolaeth, Y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth, gystadlu'r wythnos diwethaf ar gyfer y brif wobr o ddylunio a chreu'r ap.

Roedd y tîm buddugol, a elwid yn Team Explore, yn cynnwys tri o fyfyrwyr sef Volodymyr Maksymchuk a Jonathan Field, ill dau yn fyfyrwyr Cyfrifiadureg yn y drydedd flwyddyn a Daniel Grindley, myfyrwyr Busnes a Rheoli yn ei ail flwyddyn.

Fe fydd Volodymyr, Jonathan a Daniel yn derbyn gwerth 4 wythnos o brofiad gwaith â thâl gyda Chymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddarparu'r ap yn ogystal ag iPad Air yr un.

Eglurodd Carolyn Parry, Cyfarwyddwr Datblygiad Myfyrwyr a Chyflogadwyedd yn Aberystwyth ac Arweinydd Prosiect PrentisAber, "Roedd yr ymarfer wedi’i gynllunio i roi profiad o weithio amlddisgyblaethol mewn cyd-destun masnachol i fyfyrwyr. Gan weithio mewn timau bach gyda dim ond tri diwrnod i gwblhau'r dasg, gofynnwyd iddynt i gynnal dadansoddiad a chyflwyno dogfen tendro safonol broffesiynol i banel o feirniaid allanol."

"Rydym yn anelu i lansio'r ap yn yr hydref i gyd fynd ag Wythnos y Glas."

Ychwanegodd Richard Glover-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr GloverSure Ltd a chadeirydd y panel beirniadu PrentisAber, "Roedd yn bleser mawr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Cafodd y timau flas o amodau gweithle go iawn a chael cyflwyno dogfen ac wedyn cyflwyno eu gwaith i gleiniau posibl. Cynhyrchodd y timau gwaith rhagorol mewn cyfnod byr."

Dywedodd Jonathan Field o Team Explore, "Rydym yn teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi cael ein dewis fel enillwyr PrentisAber 2014 ac rydym yn edrych ymlaen at gael y cyfle i droi ein syniadau yn realiti er lles ein cyd-fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr â'r Brifysgol."

Yn siarad am y prosiect newydd hwn, dywedodd John Harrington, Rheolwr Gwasanaethau Hygyrchedd Dros Dro ym Mhrifysgol Aberystwyth, “Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn i helpu i wneud ein campws yn fwy hygyrch i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr sydd ag anawsterau hygyrchedd.

"Roeddwn yn llawn edmygedd o’r dalent a’r ymroddiad a ddangoswyd gan yr holl dimau drwy gynhyrchu ceisiadau o ansawdd mewn cyfnod mor fyr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Team Explore i droi eu gweledigaeth i mewn i ap a fydd o fudd i holl ymwelwyr Prifysgol Aberystwyth."

Cafodd gwobrau eraill eu dosbarthu ar y noson sef dwy wobr Rhaglennydd Gorau a’u cyflwynwyd i Christopher Rogers a Jonathan Field, aeth y Cyflwynydd Gorau i Daniel Grindley a’r Cynnig Mwyaf Arloesol i'r enillwyr, sef Team Explore.

AU22114