Llyfrgellydd y Gyfraith y Flwyddyn 2014

Lillian Stevenson

Lillian Stevenson

18 Mehefin 2014

Lillian Stevenson, Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Adran y Gyfraith a Throseddeg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Rheolwr Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw enillydd Gwobr Llyfrgellydd Cyfraith y Flwyddyn Wildy BIALL 2014 (Cymdeithas Llyfrgellwyr y Gyfraith ym Mhrydain ac Iwerddon).

Cyflwynwyd y wobr i Lillian yng Nghinio Blynyddol BIALL a gynhaliwyd yn y Neuadd Frenhinol yn Harrogate ar ddydd Gwener 13 Mehefin.

Esboniodd Lillian Stevenson; “Roedd yn anrhydedd mawr i dderbyn y wobr hon, yn enwedig gan mai aelodau BIALL sy’n enwebu pobl ar ei chyfer y wobr, sefydliad proffesiynol sydd â thua 700 o aelodau, a hefyd oherwydd ei bod yn cydnabod rôl ganolog Llyfrgellwyr y Gyfraith a llyfrgellwyr pwnc o fewn eu sefydliad eu hunain, o fewn eu gwlad eu hunain ac yn rhyngwladol.”

Ychwanegodd Jas Breslin, Llywydd BIALL; “Y Wobr hon yw ein cyfle ni i wobrwyo Llyfrgellydd y Gyfraith ragorol. Mae’r enillydd eleni yn llyfrgellydd cyfraith academaidd sydd wedi gwirfoddoli ar y ddau Bwyllgor BIALL ac ar y Cyngor. Mae hi wedi bod yn llysgennad rhagorol i BIALL ar sawl achlysur, a diolchwn iddi am y cyfraniad hwn tuag at ein sefydliad.

“Mae’r gwaith y mae Lillian wedi ei wneud er mwyn cynyddu gwybodaeth o adnoddau cyfraith Cymru yn haeddu sylw arbennig gan mai hi wnaeth gychwyn ar y gwaith, a chynhyrchu canllaw ymchwil Globalex i Gymru, gan olygu bod y system gyfreithiol Gymreig ac ymchwil cyfreithiol cyfreithiol i lyfrgellwyr ac ymchwilwyr o amgylch y byd yn fwy gweledol. Yn dilyn hyn cyhoedd erthygl ar System Gyfreithiol Cymru yn y cyhoeddiad Legal Information Management, llynedd. Mae ei gwaith yn y maes hwn yn golygu bod system gyfreithiol Cymru yn amlwg i aelodau BIALL ac ymchwilwyr ar draws y byd.”

Ffurfiwyd BIALL yn 1969 fel corff annibynnol a hunangynhaliol i hyrwyddo gwell rheolaeth o lyfrgelloedd y gyfraith ac unedau gwybodaeth gyfreithiol yn y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon ac i gynrychioli buddiannau lyfrgellwyr y gyfraith a gweithwyr proffesiynol ym maes gwybodaeth gyfreithiol, a chyflenwyr eraill o lenyddiaeth gyfreithiol a deunyddiau cyfeirio.

Mae gan BIALL tua 700 o aelodau, personol a sefydliadol, sy'n gweithio yn y llysoedd, adrannau'r llywodraeth, addysg uwch, siambrau, cwmnïau cyfreithiol, cyrff proffesiynol, sefydliadau masnachol ac eraill sydd ag unedau gwybodaeth gyfreithiol, ac ym maes cyhoeddi a chyflenwi llyfrau.

 

AU25714