Urddo Syr Michael Moritz yn Gymrawd

Syr Michael Moritz (Dde) yn cael ei dderbyn yn Gymrawd gan Lywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry.

Syr Michael Moritz (Dde) yn cael ei dderbyn yn Gymrawd gan Lywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry.

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Syr Michael yn gadeirydd Sequoia Capital yn Silicon Valley, Califfornia, lle bu’n gweithio ers 1986.

Ar ôl astudio hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, symudodd i UDA lle bu’n gweithio am gyfnod gyda’r cylchgrawn Time cyn creu gyrfa iddo’i hun fel un o fuddsoddwyr mwyaf poblogaidd Silicon Valley.

Mae’n gyn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Google, ac mae ei fuddsoddiadau yng nghwmnïau’r rhyngrwyd yn cynnwys Google, Yahoo!, PayPal, Webvan, YouTube, eToys, a Zappos.

Cafodd ei benodi’n Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2013 am ei wasanaethau i hyrwyddo buddiannau economaidd Prydain a’i waith dyngarol.

Cyflwynwyd Syr Michael Moritz gan yr Athro Steve McGuire, Pennaeth yr Ysgol Fusnes a Rheolaeth, ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf. 

Mae Syr Michael yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29014