Urddo arbenigwr ar fridio reis yn Gymrawd

Urddo Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, yn cael Gymrawd.

Urddo Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, yn cael Gymrawd.

17 Gorffennaf 2014

Urddwyd Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol (IRRI), yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Sheehy yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ac wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa fel gwyddonydd yn arwain timau amlddisgyblaethol yn y sector cyhoeddus yn arbenigo mewn ffisioleg cnydau, eu cynnyrch a’r amgylchedd.

Cyflawnodd waith arloesol ar raglen ymchwil flaengar a sefydlodd dîm o wyddonwyr rhyngwladol i dorri tir newydd ar ymchwil i blanhigion reis, a chynyddu’r cynhaeaf drwy atgyfnerthu ffotosynthesis.

Ariannwyd y fenter gan Sefydliad Bill a Melinda Gates ac, yn fuan wedi iddo ymddeol, dyfarnwyd OBE iddo.

Cyflwynwyd Dr John Sheehy gan yr Athro Iain Donnison o’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Graddio 2014

Mae Dr John Sheehy yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29514