Asbestos

20 Awst 2014

"Mae diogelwch ein myfyrwyr a’n staff o’r pwysigrwydd pennaf i ni. Mae’r Brifysgol yn cydymffurfio â safonau deddfwriaethol, ac yn cyflawni’r arolygon priodol ar gyfer profi am asbestos.

Cafodd yr holl Lety Preswyl ei arolygu ac mae’r wybodaeth wedi ei chadw ar gofrestr asbestos yn y Brifysgol ac mae ar gael i’r holl fyfyrwyr a’r staff.  Yn rhan o’r cynllun hwn, mae’r Brifysgol yn dangos yn fanwl sut y rheolir y risg o’r deunyddiau hyn ac mae’n rhoi gwybodaeth am leoliad a chyflwr y deunydd i unrhyw un sy’n debygol o darfu neu weithio arno.

Yn achlysurol caiff yr eitemau hyn eu harolygu a’u monitro a chânt eu hail-sgorio o dan yr algorithm asesu deunyddiau yn unol â chyfarwyddyd Iechyd Diogelwch a’r Amgylchedd HSG264, a diweddarir y Gofrestr.

Teiliau fynil yw 95% o’r  asbestos yn yr ystafelloedd gwely, sydd â sgôr o 2, sef y sgôr isaf sydd ar gael (Isel Iawn).  Mae’r teiliau fynil hyn o dan y carpedi ac felly nid oes risg. Mae’r 5% arall ar y sgôr nesaf at yr isaf (Isel). Mae’r rhain y tu ôl i banel pren sefydlog sydd wedi ei osod yn gadarn yn ei le gan sgriwiau na ellir ymyrryd â hwy. Ni ellir cyrraedd atynt ac nid oes risg i ddefnyddwyr yr adeilad, y mae’n gwbl ddiogel, ac yn gwbl unol â gofynion statudol ac arfer da. 

Os oes gan unrhyw fyfyriwr neu aelod staff gwestiynau am hyn, mae’r Brifysgol yn hapus i drafod y mater yn uniongyrchol â’r unigolion hynny."