Ysgol Rheolaeth a Busnes ar y rhestr fer Ysgol Busnes y Flwyddyn

Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes

Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes

04 Medi 2014

Mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ysgol Fusnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times 2014.

Am 10 mlynedd, mae'r Gwobrau wedi darparu llwyfan i brifysgolion a cholegau yn y Deyrnas Gyfunol i ddathlu'r timau a’r unigolion gorau mewn addysg uwch, a'r sefydliadau mwyaf llwyddiannus. Mae'r gwobrau yn cydnabod talent eithriadol, ymroddiad ac arloesedd, o ymchwil i ehangu cyfranogiad, dysgu i entrepreneuriaeth.

Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd yr Athro Steven McGuire, Cyfarwyddwr yr Ysgol Busnes a Rheolaeth: "Rydw i wrth fy modd fod ymdrechion cydweithwyr a myfyrwyr yn yr Ysgol Busnes a Rheolaeth wedi cael eu cydnabod fel hyn. Rydym yn falch iawn o sut mae'r ysgol wedi datblygu ers ei sefydlu, ac yn enwedig ers i'r ysgol ddod yn rhan o’r Sefydliad Rheoli, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth yng Nghanolfan Llanbadarn.

"Mae'r Ysgol yn denu myfyrwyr a staff o bob rhan o'r byd, ac mae ein portffolio ymchwil yn parhau i dyfu ac yn darparu myfyrwyr a staff gydag amgylchedd dysgu ac addysgu rhagorol, yn ogystal â chyfleoedd ymchwil gwych yma yn Aberystwyth."

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rheoli, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth,: "Rwy'n llongyfarch cydweithwyr yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar fod ar y  rhestr fer, sy'n dangos ein hymrwymiad fel Athrofa a Phrifysgol at ein Hysgol Fusnes.

"Rydym yn edrych ymlaen yn y gobaith o newyddion da pan fydd canlyniadau terfynol y Gwobrau yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd."

Mae Henley, Northampton, Y Brifysgol Agored, Salford ac Ysgolion Busnes Shefield hefyd ar restr fer categori Ysgol Fusnes y Flwyddyn.

Yn 2013, enillodd Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gweledig Prifysgol Aberystwyth wobr am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg yn y Gwobrau. Yn gynharach eleni, fe wnaeth Adran Gynllunio'r Brifysgol gyrraedd rhestr fer ar gyfer Tîm Cynllunio Strategol Eithriadol yng Ngwobrau Rheoli ac Arweinyddiaeth Addysg Uwch y Times.

Bydd enillwyr Ysgol Busnes y Flwyddyn yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo fawreddog ddydd Iau 27 Tachwedd yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain.

AU34414