Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi ymgyrch 'Stoptober'

Stoptober

Stoptober

26 Medi 2014

Mae Stoptober, her rhoi'r gorau i ysmygu 28-dydd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl yn dilyn ei lwyddiant ysgubol y llynedd a welodd 160,000 o bobl yn cwblhau'r her yn llwyddiannus.

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) wrth i ymchwil newydd ddangos y blynyddoedd ychwanegol o fywyd y gellir eu cael drwy roi'r gorau i ysmygu.

Mae rhywun sy'n cymryd rhan yn Stoptober, a ddim yn ysmygu eto, yn gallu ennill 7 diwrnod ychwanegol o fywyd, bob 28 diwrnod, am weddill eu bywyd. Ynghyd â'r manteision iechyd, bydd stopio yn arbed yr ysmygwr dros £150 cyfartalog y mis a bron i £2,000 y flwyddyn. 

Yn ystod yr ymgyrch Stoptober y llynedd, cafod £25 miliwn ei arbed gan y 160,000 o bobl am beidio prynu sigaréts.

Gyda 23% o bobl yng Nghymru yn smocio, mae'n parhau i fod yn lladdwr mwyaf y wlad gyda hanner ysmygwyr hirdymor yn marw cyn amser o glefyd sy'n gysylltiedig ag ysmygu. Dengys ymchwil fod y rhai sy'n rhoi'r gorau i ysmygu am 28 diwrnod yn bum gwaith mwy tebygol o beidio smocio ac uchelgais Stoptober yw helpu ysmygwyr i gyflawni'r nod hwn.

Mae Stoptober yn cynnig ystod o gymorth rhad ac am ddim gan gynnwys pecyn rhoi'r gorau i ysmygu, ap ffôn symudol a thestun cymorth 28-diwrnod gyda diweddariadau dyddiol a chyngor ar sut i roi'r gorau iddi, offer manwl ac awgrymiadau ar sut i ymdopi, yn ogystal ag anogaeth a chefnogaeth gan filoedd o bobl sy’n rhoi'r gorau iddi gyda’i gilydd drwy gyfryngau cymdeithasol Stoptober

Mae Stoptober 2014 yn dechrau ar ddydd Mercher 1 Hydref ac yn rhedeg am 28 diwrnod. Am fwy o wybodaeth ac i ymuno â'r her fwyaf o'i fath, ewch i stoptober.smokefree.nhs.uk