Darlith Goffa E H Carr: ‘Realism and the relativity of judgement’

Yr Athro Raymond Geuss

Yr Athro Raymond Geuss

13 Hydref 2014

Bydd Raymond Geuss, Athro Emeritws mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol E H Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 30 Hydref.

Cynhelir y ddarlith, sydd ar agor i’r cyhoedd, ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a bydd yn dechrau am 6 yr hwyr.

Pwnc darlith yr Athro Geuss fydd ‘Realism and the relativity of judgement’.

Mae'r Athro Geuss yn ysgolhaig nodedig iawn ac yn arbenigo mewn athroniaeth wleidyddol, moeseg a hanes Athroniaeth Gyfandirol.

Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys The Idea of a Critical Theory (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1981) a Philosophy and Real Politics (Gwasg Prifysgol Princeton, 2008). Mae'r llyfr diweddaraf o’r rhain yn ystyried dull realydd i athroniaeth wleidyddol.

Cyn symud i Gaergrawnt yn 1993, bu’r Athro Geuss yn dysgu ym Mhrifysgol Princeton, Prifysgol Chicago, a phrifysgolion Heidelberg a Freiburg.

Mae ei lyfr diweddaraf, A World Without Why (Gwasg Prifysgol Princeton, 2014) yn gasgliad o draethodau sy'n delio â'r nodwedd ddynol o obeithio yn ofer, ac effaith hir dymor hyn ar syniadau moesegol. Mae’r Athro Geuss hefyd yn gyd-olygydd o’r Cambridge Texts gyda Quentin Skinner, sy’n rhan o’r gyfres History of Political Thought.

Yn ei ddarlith, bydd yr Athro Geuss yn trafod y gwrthwynebiad yn erbyn gwaith Carr, sef bod ei safbwynt 'realaidd' yn un 'perthynolaidd', ac felly ni allai roi arweiniad go iawn i ni mewn gwleidyddiaeth. Ar ôl ystyried y gwrthwynebiad, a sut y gallai rhywun ymateb, fe fydd yn awgrymu bod Carr ei hun yn cynnig ymateb, ond nad oedd ganddo reolaeth o’i syniadau mwyaf gwreiddiol. Yn benodol, bydd yn dadlau bod 'realaeth' a math penodol o 'iwtopiaith' mewn egwyd dor yn gydnaws mewn ffyrdd nad oedd Carr wedi eu rhagweld. Drwy ddeall moesoldeb fel rhyw fath o wleidyddiaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth fel moesoldeb cymwysedig, mae’r Athro Geuss o’r farn fod gan Carr 'ymrwymiad damcaniaethol adlewyrchol ac ymgysylltiol nad yw wedi ei gysylltu â phersonau na sefydliadau’, sydd o’r herwydd, yn fodel a all gael ei ddefnyddion gan bawb.

Darlithoedd Goffa E H Carr - Cefndir

Cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol Woodrow Wilson, a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 1919, yw’r Gadair hynaf yn y pwnc, ac arweiniodd at sefydlu’r Adran.  E H Carr oedd pedwerydd deiliad y Gadair, a’r mwyaf adnabyddus.

Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth (1936-1947), ysgrifennodd yr Athro Carr The Twenty Years' Crisis 1919-1939: An Introduction to the Study of International Relations sy'n cael ei ystyried yn un o weithiau mwyaf arloesol y ddisgyblaeth. Yn ddiweddarach, daeth yn adnabyddus yn y byd ysgolheigaidd am ei waith aml-gyfrol, A History of Soviet Russia a’r gyfrol lwyddiannus o ran gwerthiant, What is History? Bu farw'r Athro Carr yn 1982 yn 90 oed. Mae'r Adran wedi bod yn cynnal darlith flynyddol er cof amdano ers 1984.

Yn wreiddiol ariannwyd y gyfres ddarlithoedd gan freindaliadau o lyfrau oedd yn deillio o gynadleddau a noddwyd gan yr Adran dros ryw 20 mlynedd yn Neuadd Gregynog, canolfan gynadledda Prifysgol Cymru, a chyn hynny cartref David Davies, a noddodd y Gadair Wilson, a gŵr yr oedd ei berthynas â Carr yn un ddadleugar.

Mae'r gyfres ddarlithoedd bellach yn cael ei hariannu gan Sage, cyhoeddwyr International Relations, cyfnodolyn Sefydliad Coffa David Davies lle bydd fersiwn ysgrifenedig o’r ddarlith yn cael ei chyhoeddi.

AU41114