Cyhoeddi’r Dreigiau ar gyfer Aber Does Dragons’ Den

Ffau’r dreigiau

Ffau’r dreigiau

21 Hydref 2014

Bydd pum person busnes amlwg o Aberystwyth yn perfformio rôl y 'Dreigiau' ar gyfer y recordiad o Aber Does Dragons’ Den sydd ar y gweill.

Datblygwyd Aber Does Dragons’ Den gan yr Athro Brian Garrod o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd pum tîm o ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 o Ysgol Penglais Aberystwyth yn cyflwyno eu syniadau busnes i'r Dreigiau o flaen y camerâu ar ddydd Gwener 24 Hydref.

Bydd y recordio yn digwydd yn stiwdios teledu Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol.

Ac yn union fel Dragons’ Den y BBC, sydd wedi profi i fod mor boblogaidd, bydd y Dreigiau wrth law i gynnig beirniadaeth adeiladol a chyngor i'r timau a’u cynigion busnes.

Y Dreigiau

Greg Dash
Mae Greg Dash yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth Greg i amlygrwydd llynedd drwy ddylunio a datblygu camera llygad pysgodyn digidol cyntaf y byd. Ei fwriad gwreiddiol oedd ad-dalu rhywfaint o’i ddyled myfyriwr, ond mwynheuodd gryn sylw yn y cyfryngau gan werthu dros fil o gamerâu i gwsmeriaid ar draws y byd.

Tony Bates
Mae Tony Bates yn gyd-sylfaenydd cwmni cyfreithiol o Aberystwyth, Morris & Bates. Sefydlwyd Morris & Bates yn 1979, ac wedi cyfres o gaffaeliadau ac ehangiadau, mae gan y cwmni wyth o gyfreithwyr a swyddfeydd yn Nhrefyclo a Llandrindod. Mae Tony Bates ei hun yn arbenigo mewn trafodion masnachol mwy a materion cwmni.

Dr Debra Croft
Mae Dr Debra Croft yn bennaeth prosiectau Ehangu Mynediad Prifysgol Aberystwyth. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac mae ei gwaith ym maes Ehangu Mynediad yn cynnwys meithrin cysylltiadau â'r gymuned leol, a gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol gyda'r nod o ddileu’r rhwystrau i Addysg Uwch.

Victoria Kearney
Mae gan Victoria Kearney werth 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau adeiladu, hamdden a manwerthu. Mae hi wedi rheoli busnesau newydd a lansiadau cynnyrch yn y Deyrnas Gyfuno a thramor. Yn y blynyddoedd diweddar mae hi wedi bod yn weithgar fel model rôl busnes, yn cefnogi gweithgareddau entrepreneuraidd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled y Deyrnas Gyfunol.

Gareth Lloyd Roberts
Mae Gareth Lloyd Roberts yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Cyn cymryd at yr awenau yng Nghanolfan y Celfyddydau, bu Gareth yn gweithio fel cynhrychydd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ac mae hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr, awdur sgriptiau ac ymchwilydd ar gyfer teledu Cymraeg.

Bydd enillwyr Aber Does Dragons’ Den yn cael eu cyhoeddi mewn dangosiad arbennig o’r rhaglen yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, Canolfan Llanbadarn ar ddydd Gwener 7 Tachwedd am 7 yr hwyr.

Ariannwyd Aber Does Dragons’ Den fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC sy'n rhedeg o'r 1af i'r 8 Tachwedd http://www.esrc.ac.uk/news-and-events/events/festival/index.aspx

AU40914