Ymchwil £2.76 miliwn ar gyfer cynaliadwyedd economaidd ceirch a'r diwydiant melino

Yr Athro Athole Marshall gydag aelodau tîm bridio ceirch IBERS yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion a ariennir gan y BBSRC

Yr Athro Athole Marshall gydag aelodau tîm bridio ceirch IBERS yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion a ariennir gan y BBSRC

02 Chwefror 2015

Mae tîm bridio ceirch arobryn IBERS Prifysgol Aberystwyth (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) wedi sicrhau cyllid newydd gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol) ar gyfer ymchwil gyda'r nod o wella cynaliadwyedd economaidd ceirch.

Mae'r galw am geirch gradd bwyd o safon uchel yn cynyddu yn flynyddol, a’r galw hwnnw yn cael ei yrru gan ei fanteision iechyd sydd wedi eu profi, a thrwy ddatblygu cynnyrch newydd gan y diwydiannau melino a grawnfwydydd. Er gwaethaf marchnad sy'n ehangu, mae'r cnwd ceirch yn parhau i gael ei herio gan y buddsoddiadau uchel sy'n cael eu gwneud mewn cnydau amgen ac mae hyn yn dwysau cystadleuaeth.

Bydd y prosiect BBSRC LINK 5 mlynedd newydd hwn yn mynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu amaethyddiaeth yn y DG o ran cynhyrchu cynaliadwy o fwyd diogel a maethlon.

Dywedodd yr Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion yn IBERS; "Mae'r prosiect newydd hwn yn strategol bwysig, yn benodol wrth wella cynhyrchiant, ansawdd a chyfansoddiad maethol cnwd ceirch, a chynyddu cynaliadwyedd cynhyrchu trwy ddeall a manteisio ar y genomeg a'r amrywiaeth genetig mewn planhigion (gwyddor cnydau)."

Bydd y prosiect hwn yn cymhwyso'r offer ac adnoddau genetig diweddaraf, gan gynnwys detholiad genomig, i wella nodweddion allweddol a fydd yn cynyddu cynhyrchu a defnyddio ceirch, ac i wella cynnyrch ansawdd a chyfansoddiad grawn.

Mae cyfansoddiad ceirch yn unigryw a mae gwella nodweddion maethol dymunol yn bwysig i'r gadwyn werth ceirch ac i ddefnyddwyr sydd yn mynnu mwy o fwydydd maethlon ac iach. Mae gwella ymarferoldeb y grawn felly yn sbardun economaidd allweddol.

Mae'r cyfleusterau uwch-dechnoleg yn IBERS yn cynnwys yr unig Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn y DG, sydd yn galluogi bridio trwybwn uchel modern a dulliau ffenoteipio ar gyfer gwelliannau genetig o geirch, gan ganolbwyntio ar gynnyrch, grawn ac ansawdd melino.

Mae'r prosiect LINK yma dan arweiniad IBERS, yn cynnwys ymchwil ar y cyd rhwng y partneriaid gwyddonol (IBERS, Prifysgol Heriot-Watt a NIAB) â’r diwydiant, a fydd yn chwarae rhan ganolog mewn arfarnu ansawdd y mathau newydd o geirch.

Partneriaid mewn diwydiant y prosiect yw: Senova – prif gwmni datblygu amrywiaeth ceirch yn y Deyrnas Gyfunol a Chymdeithas Melinwyr Ceirch a Barlys Prydeinig (BOBMA) sy'n cynrychioli'r prif gwmnïau melino ceirch yn y Deyrnas Unedig, fel PepsiCo, Morning Foods, Grampian Oats, Hogarths a SpeediCook.

IBERS

Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU4615