Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ennill Adran y Flwyddyn

Aelodau o’r adran fuddugol, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn dathlu llwyddiant yr Adran yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 2015.

Aelodau o’r adran fuddugol, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn dathlu llwyddiant yr Adran yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth 2015.

25 Ebrill 2015

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yw Adran y Flwyddyn Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a gynhaliwyd ar Ddydd Gwener 24 o Ebrill.

Roedd Adran y Flwyddyn yn un o un ar ddeg o wobrau gafodd eu cyflwyno yn ystod y Gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn.

Anrhydeddwyd darlithwyr, staff cymorth a chynrychiolwyr myfyrwyr yn ystod y noson a gynhaliwyd ym Medrus.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, John Grattan: “Hoffwn longyfarch yr enillwyr a phawb a enwebwyd yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eleni. Mae Aberystwyth yn buddsoddi’n helaeth er mwyn datblygu ymhellach y profiad dysgu ac addysgu, o ran technoleg ac adnoddau, ac wrth gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth. Adlewyrchwyd y brwdfrydedd a’r gwerthfawrogiad a ddangoswyd gan fyfyrwyr o waith ysbrydoledig ac ymroddiad cydweithwyr ar draws y Brifysgol eleni, yn y nifer mwyaf erioed o enwebiadau. Mae'n bleser mawr gweld ein myfyrwyr yn pleidleisio dros bwy maen nhw’n teimlo yw'r sêr pan ddaw i ddysgu ac ysbrydoli. Dyma’r hyn sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth mor arbennig.”

Yr enillwyr yw:

Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn
Enillydd: Julie Ashton, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Meddai Philippa Oakden, myfyriwr y mae Julie yn ei chynrychioli: “Julie yw'r cynrychiolydd myfyrwyr gorau a gefais i drwy gydol fy addysg. Mae hi'n rhoi llais i bobl sy'n rhy swil i siarad drostynt eu hunain, ac ni allem ofyn am well cynrychiolydd myfyrwyr.”

Aelod Staff Newydd y Flwyddyn
Enillydd: Catherine Cottrell, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Dywedodd Ryan Davies, a gafodd ei ddysgu gan Catherine: “Mae cael fy nysgu eleni gan Catherine wedi bod yn bleser llwyr. Mae hi wedi bod yn gyson broffesiynol, brwdfrydig a  hyderus mewn darlithoedd. Yn gyflym daeth Dr Cottrell yn hoff ddarlithydd i lawer, ac mae’n haeddu cydnabyddiaeth am ei gallu dysgu!”

Gwobr Athro Ôl-raddedig
Enillydd: Devon Simons, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Wrth enwebu Devon am y wobr, dywedodd Peter Serafin: “Mae Devon yn un o'r addysgwyr hyblyg rheiny nad yw wedi ei chyfyngu i’w maes hi o arbenigedd. Mae hi'n barod i drafod ac i gynorthwyo myfyrwyr.”

Staff Cymorth y Flwyddyn
Enillydd: Meinir Davies, Adran Cyfrifiadureg
Dywedodd Connor Goddard, myfyriwr yn yr Adran Gyfrifiadureg lle mae Meinir yn gweithio: “Mae’r cymorth y mae hi'n ei roi i bob myfyriwr heb ei ail, ac mewn llawer ffordd, hi yw “mam” yr adran.”

Cyfrwng Cymraeg Addysg
Enillydd: Hywel Griffiths, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Wrth enwebu Hywel ar gyfer y wobr, dywedodd Laura Truelove: " “Mae Hywel yn athro arbennig ym maes afonydd, ac yn enwedig yn y Gymraeg. Nid yn unig y mae ei addysgu am y pwnc yn ardderchog, ond hefyd ei gymorth gyda defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu, yn enwedig wrth ystyried termau yn y maes sydd heb eu cyfieithu.”

Goruchwyliwr y Flwyddyn (Israddedig)
Enillydd: Glyn Jenkins, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Lauren Marks sydd wedi enwebu Glyn am y wobr. Dywedodd: "Mae fy nhiwtor traethawd hir wedi mynd tu hwnt i’r hyn y mae disgwyl iddo’i wneud yn y rôl. Er ei fod yn eithriadol brysur fel cydlynydd cynllun gradd, mae ei fyfyrwyr traethawd hir yn cael blaenoriaeth pan maen nhw angen ei weld. Mae'n angerddol a gofalgar ac rwy'n ffodus taw fe sydd wedi bod yn goruchwylio fy ngwaith eleni.”

Goruchwyliwr y Flwyddyn (Ôl-raddedig)
Enillydd: Pippa Moore, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Enwebwyd Pippa gan y fyfyrwraig doethuriaeth Ally Evans. “Rwyf wedi ei enwebu Pip am wobr bob blwyddyn ers i mi ddechrau gweithio ar fy noethuriaeth yma yn Aber. Rwyf bellach wedi cyrraedd camau ola’r broses, ac yn gwerthfawrogi’n fwy nag erioed y gefnogaeth yr wyf yn parhau i’w derbyn oddi wrthi fel fy ngoruchwyliwr a’m ffrind.”

Tiwtor Personol y Flwyddyn
Enillydd: Helen Marshall, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Dywedodd y fyfyrwraig o IBERS, Sophie Boyle: “Ni allaf fynegi ddigon faint o gefnogaeth a dderbyniais gan Helen dros y tair blynedd ddiwethaf yn y Brifysgol, yn ystod y tymor a thu hwnt. Nid yn unig y mae hi wedi fy nysgu am Fioleg Môr, fe ddysgodd i fi sut i dyfu fel person a chredu yn fy hunan. Os oes unrhyw athro neu diwtor yn haeddu'r wobr hon, heb amheuaeth Helen Marshall yw’r person hwnnw.”

Cyfraniad eithriadol i Fywyd y Brifysgol
Enillydd: James Vaughan, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Mae hon yn wobr newydd eleni. Enwebwyd James am y wobr gan Cameron Smyth ar ôl iddo gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng. Dywedodd: “Fe gynorthwyodd Jim fi gael llawer o fod yn rhan o’r Gemau Argyfwng; fe olygodd ym mod yn rhan ohonynt ac fe’m galluogodd i ddefnyddio fy holl sgiliau hyd eithaf fy ngallu.”

Gwobr Addysgu Rhagorol
Enillydd: Ayla Gôl, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Enwebwyd Ayla am y wobr gan Sarah Dorman. Dywedodd: "Yn ogystal â bod yn ddarlithydd gwych, mae Ayla hefyd yn cynnig i fyfyrwyr ffordd newydd o edrych ar y byd a herio stereoteipiau.”

Adran y Flwyddyn
Enillydd: Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Dywedodd Alice Vernon, myfyriwr yn yr adran: “Mae'r Adran yn debyg i fy ail deulu ecsentrig. Mae pob myfyriwr yn awyddus i deimlo'n arbennig, ac mae rhai i mi ddiolch i’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol am yr awyrgylch gynnes, groesawgar a dymunol maen ei gynnig.”

AU13815