Pantycelyn

21 Mai 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi cytuno ac wedi sicrhau bod yn rhaid cael llety penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn y Brifysgol.

Dros y 12 mis diwethaf mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda swyddogion UMCA a chynrychiolwyr myfyrwyr i ddatblygu cynigion ar gyfer ailddatblygu Pantycelyn.  Mae adroddiad y Gweithgor yn amlinellu nifer o opsiynau ar gyfer adnewyddu Pantycelyn, gan gynnwys fel llety myfyrwyr yn bennaf. Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod y dewisiadau hirdymor yn galw am ailddatblygiad cyflawn a buddsoddiad sylweddol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol ar Ddydd Gwener 22 Mai ac argymhellion yn cael eu gwneud i’w hystyried gan Gyngor y Brifysgol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr argymhellion a’r dadleuon sydd wedi eu gwneud yn yr adroddiad yn nghyd- destun y ddarpariaeth bresennol, galw, cost a safon yr holl lety sy’n cael ei ddarparu gan y Brifysgol.

Yn sgîl yr angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol yn y tymor byr er mwyn bod Pantycelyn yn parhau fel neuadd breswyl tu hwnt i Fehefin 2015, bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried cynnig i beidio â darparu llety myfyrwyr yno o Fedi 2015, ac yn ystyried defnydd amgen i Bantycelyn a fyddai yn cynnwys gweithgareddau iaith a diwylliant cyfrwng Cymraeg.

Os bydd y cynnig i beidio â pharhau i ddefnyddio'r Neuadd fel neuadd breswyl myfyrwyr y tu hwnt i ddiwedd y tymor yn cael ei gymeradwyo, bydd y Brifysgol yn gweithio gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr i ddarparu llety addas arall o fis Medi 2015.

Yn y cyfamser, bydd y Brifysgol yn cyfarfod ag aelodau UMCA yn nes ymlaen heddiw i drafod y cynigion.

Llety

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwarantu llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Mi fydd myfyrwyr sydd wedi nodi eu bod yn dymuno aros ym Mhantycelyn ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2015/16 yn cael cynnig llety arall gan y Brifysgol, os na fydd Pantycelyn ar gael.

Bydd myfyrwyr sydd yn dychwelyd ac wedi nodi eu bod yn dymuno aros ym Mhantycelyn ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2015/16 yn cael cynnig llety arall gan y Brifysgol, os na fydd Pantycelyn ar gael.

Diwedd.