Cadw'r Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

29 Mai 2015

Mae Vitae, sefydliad yn y Deyrnas Gyfunol sy’n hyrwyddo ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch, wedi cyhoeddi bod Prifysgol Aberystwyth ymhlith 11 sefydliad yn y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Prifysgolion Bryste, Caergrawnt, a Phrifysgol Abertawe sydd wedi llwyddo i gadw’r wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Bellach mae 21 o sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol wedi ymgymryd ac wedi cadw’r Wobr ar y cyfnod pedair blynedd hwn.

Mae'r Wobr yn dangos ymrwymiad prifysgol i wella amodau gwaith a datblygu gyrfa ar gyfer staff ymchwil, a fydd yn ei dro yn gwella maint, ansawdd ac effaith ymchwil er budd cymdeithas ac economi’r Deyrnas Gyfunol.

Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Chadeirydd y Grŵp Ymchwilydd Concordat Aberystwyth a arweiniodd y cais am y wobr - Gary Reed,

'Rwy'n falch iawn ein bod wedi cadw’r wobr hon am y trydydd tro mewn pedair blynedd. Mae’r blynyddoedd blaenorol wedi canolbwyntio'n fawr ar wella gweithgareddau cefndir hanfodol. Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer y ddwy flwyddyn nesaf yn fwy uchelgeisiol gyda mwy o ymgysylltu â'r gymuned ymchwilwyr, ac yn arbennig y PDRAs, a datblygu rhaglen ddatblygu ymchwilwyr llawn. '

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Wobr ar gael yma.