Cynnydd sylweddol yng nghyflogadwyedd graddedigion Prifysgol Aberystwyth

02 Gorffennaf 2015

Mae ystadegau sydd wedi eu rhyddhau heddiw, dydd Iau 2 Gorffennaf, gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos cynnydd arwyddocaol yn y dangosydd cyflogadwyedd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r ganran o fyfyrwyr sydd wedi gadael Prifysgol Aberystwyth ar ôl cwblhau gradd gyntaf llawn amser (h.y. myfyrwyr israddedig llawn amser pan oeddent yn astudio yn Aberystwyth), sydd yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach neu’r ddau, wedi cynyddu o 85.5% (ystadegau 12/13) i 91.4% yn Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2013/14.

Tra bod y newid sylweddol hwn wedi digwydd mewn hinsawdd o gynnydd mewn cyflogadwyedd graddedigion newydd ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yng Nghymru – cynnydd o 1 pwynt canran - mae gwelliant Aberystwyth lawer yn uwch na’r tuedd cenedlaethol, gyda chynnydd o 6 pwynt canran. 

Yn ogystal, mae’r gyfran o raddedigion cyflogedig Prifysgol Aberystwyth sydd mewn cyflogaeth safon raddedig wedi cynyddu ar gyfradd hyd yn oed yn uwch - 9 pwynt canran yn uwch na llynedd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:  “Rydym wrth ein bodd bod ein cyfradd cyflogadwyedd wedi cynyddu, gan adlewyrchu gwaith caled a menter ein graddedigion, yn ogystal ag ymrwymiad ein staff i sicrhau llwyddiant ein myfyrwyr, yn academaidd ac yn y gweithle.

“Rydym yn buddsoddi mewn mentrau cyflogadwyedd arloesol a strategol sydd yn cwmpasu ein holl Athrofeydd academaidd a fydd, yn fy marn i, yn gwella ein cyfraddiad cyflogadwyedd hyd yn oed yn fwy – mae’r ystadegau diweddaraf yma yn dangos bod y cynnydd mewn lefelau cyflogadwyedd ymysg graddedigion Prifysgol Aberystwyth yn gymhelliad cryf, ac un o nifer, dros ddewis dod i astudio yma.”

AU21415