Urddo Eurwen Richards yn Gymrawd

Eurwen Richards, Cymrawd Prifysgol Aberystwyth

Eurwen Richards, Cymrawd Prifysgol Aberystwyth

14 Gorffennaf 2015

Urddwyd y technolegydd bwyd hyglod ac arbenigwr cynnyrch llaeth, Eurwen Richards, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Bu Eurwen yn fyfyrwraig a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn ei phenodi fel uwch-dechnolegydd bwyd yn Marks & Spencer a Phennaeth yr Adran Sicrhau Ansawdd yn Dairy Crest.

Mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys Bwrdd Caws Prydain (Cyflawniad Oes), Gwobrau Caws Prydain (Person Caws y Flwyddyn) a Gwobrau Caws y Byd (Cyfraniad Eithriadol i Gaws).

Yn gyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth, Eurwen oedd y Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol.

I gydnabod ei llwyddiannau, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi enwi gwobr ar eu hôl - ‘Gwobr Eurwen Richards am y Caws Gorau o Gymru’.

Cyflwynwyd Eurwen Richards yn Gymrawd ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwyniad Eurwen Richards yn Gymrawd gan Dr Rhodri Llwyd Morgan:

‘Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Miss Eurwen Richards yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Miss Eurwen Richards as a Fellow of Aberystwyth University.

Magwyd Eurwen ar fferm Llety Brongu, Llangynnwyd, Cwm Llynfi (ger Maesteg).  Graddiodd mewn Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a dechrau wedyn ar yrfa ddisglair yn y diwydiant llaeth a bwyd. 

Raised in the Llynfi Valley on Llety Brongu Farm, Eurwen graduated from Aberystwyth University and forged a notable career in the Dairy and Food Industries.  After a spell lecturing in Aberystwyth University Eurwen went on to be a Senior Food Technologist at Marks & Spencer before moving to Dairy Crest Foods as Quality Assurance Manager.  Since then she has worked across the world as a freelance Dairy Consultant.

Person diymhongar iawn yw Eurwen sydd wedi cyflawni llawer iawn.

Eurwen is a very modest person that has achieved a great deal.  But she told me recently that, despite many and various accolades, what gives her greatest pride is the fact that she has maintained close friendships with many many colleagues at her various places of employment. I’m certain she works hard at it, and I think that says a lot, don’t you.

When appointed to her role at Marks & Spencer she was the first Dairy Foods expert employed by the company. The work involved inspecting standards at factories that were suppliers and often setting those standards. Very often the only woman in the company of men and often faced with negative attitudes, she more than held her own and her expertise was, and is, greatly sought after – in today’s parlance, she was headhunted from M&S by Dairy Crest to a very senior role.

Ar ddiwedd ei gyrfa mae Eurwen wedi dychwelyd i fro ei mebyd ac wedi cyfrannu llawer at achosion lleol a chenedlaethol yng Nghymru.  Un achos pwysig iddi yw mudiad Cytûn – sy’n hybu cydweithio rhwng yr enwadau Cristnogol. Bu’n Llywydd Cytûn ddeng mlynedd yn ôl a diolch i’w dylanwad cadarn ac amyneddgar hi, cafwyd un babell ar y cyd am y tro cyntaf yn enw Cytûn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol – camp ddiplomyddol rwy’n siŵr y bydd ein Canghellor yn gallu ei edmygu.

On returning to South Wales Eurwen has continued to contribute locally and further afield. At a difficult time for the community of Bridgend, when several local young people had tragically taken their own lives, Eurwen was active in efforts among the local chapels to support the young people and volunteered early on as one of the new team of Street Pastors offering a caring and friendly ear to late-night revellers.

Shouldn’t be referring to Eurwen in such familiar terms, no. For we are in the presence of royalty, did you know? 

She has an international reputation as a cheese judge. She is a regular judge at the World Cheese Awards, the Nantwich International Cheese Show, the British Cheese Awards (where she judges alongside Blur guitarist turned cheesemaker Alex James), the Great Taste Awards, the Bath & West Show and the Royal Welsh Show.

In 2001 Eurwen received the British Cheese Board’s Lifetime Achievement Award and in 2007 was awarded the honour of being named British Cheese Person of the year. In 2012 the Royal Welsh Agricultural Society created for Eurwen her own special award at the Royal Welsh, named “The Eurwen Richards Best Welsh Cheese Award”, which she judges personally. Last year, the Guilde de Fromagers (yes, even the French) made her a “Companion of Honour”.  Being awarded Exceptional Contribution to Cheese at the World Cheese Awards in 2013 prompted one journalist to declare that Eurwen had been “crowned Queen of Cheese”.

As an alumna of Aberystwyth her contribution has been equally positive, in particular as a member and officer of the Old Students’ Association.  I hope all of you will keep in touch with us as alumni and support projects and other ways of helping future students.

Eurwen, eich Mawrhydi, mae eich cyfraniadau amrywiol i’w hedmygu’n fawr iawn.

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Miss Eurwen Richards i chi yn Gymrawd. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Miss Eurwen Richards to you as a Fellow of Aberystwyth University.’

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715