Cyhoeddi Mind Aberystwyth fel Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor

Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor 2015/16: (chwith i’r dde) Bethan Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Mind Aberystwyth; Fiona Aldred, Prifweithredwr Mind Aberystwyth; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Tim Bennett, Prif Swyddog Busnes & Chyllid a Zoe Berridge, Cydlynydd Iechyd Meddwl Mind Aberystwyth.

Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor 2015/16: (chwith i’r dde) Bethan Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Mind Aberystwyth; Fiona Aldred, Prifweithredwr Mind Aberystwyth; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Tim Bennett, Prif Swyddog Busnes & Chyllid a Zoe Berridge, Cydlynydd Iechyd Meddwl Mind Aberystwyth.

15 Gorffennaf 2015

Mind Aberystwyth yw Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2015/16.

Bellach yn ei phedwaredd blwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor yw codi arian hanfodol ar gyfer achos teilwng.

Mae Mind Aberystwyth yn darparu cyngor a chymorth i gefnogi unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Mae'n ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth wrth i ffigurau diweddar ddangos bod 1 o bob 4 o bobl bob blwyddyn yn profi problem iechyd meddwl.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym yn falch o gyhoeddi mai Mind Aberystwyth yw Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor ar gyfer 2015/16.  Rydym yn arbennig o ffodus ym Mhrifysgol Aberystwyth i gael cymuned glòs o fyfyrwyr a staff, a'r syniad tu ôl i’r Elusen yw darparu ffocws ar gyfer codi arian a rhoddion elusennol trwy gydol y flwyddyn.

Mae Mind Aberystwyth yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd meddwl da i bawb, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth, ac yn datblygu gwasanaethau lleol ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan drallod meddwl, gan gynnwys eu gofalwyr, teuluoedd, cyfeillion a chefnogwyr. Rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi yn ystod y flwyddyn i ddod, gan ddechrau gyda stondin yn ystod ein Wythnos Graddio yr wythnos hon."

Bob blwyddyn mae Prifysgol Aberystwyth yn codi arian ar gyfer Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor wahanol. Mae'r elusennau yn cael eu henwebu gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol, ac yna llunir rhestr fer o bump, cyn agorir y bleidlais unwaith eto i ddewis yr Elusen swyddogol.

Bydd yr holl arian a godir yn 2015/16, yn mynd i gefnogi elusen Mind Aberystwyth.

Dywedodd Prif Weithredwr Mind Aberystwyth Fiona Aldred: "Rydym wrth ein boddau fod Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Mind Aberystwyth i fod yn Elusen yr Is-Ganghellor y Flwyddyn. Bydd cefnogaeth gan y Brifysgol yn ei gwneud hi’n bosibl i Mind Aberystwyth barhau i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan drallod meddwl i fyw bywydau llawn, ac i chwarae eu rhan yn llawn mewn cymdeithas.

Yn 2014/15, cododd Prifysgol Aberystwyth fwy na £2000 i Elusen Bad Achub Aberystwyth a Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub Brenhinol, yr RNLI.

Drwy gydol y flwyddyn bu myfyrwyr a staff  yn cwblhau llwyth o weithgareddau gan gynnwys Zumbathon bywiog a gorchest bobi flasus.

Gallwch gael gwybodaeth am Mind Aberystwyth yn http://mindaberystwyth.org/

AU23715