Athro ffiseg o Aberystwyth yn arwain ymchwil chwyldroadol ar wydr

Yr Athro Neville Greaves yn annerch y Gyngres Ryngwladol ar Wydr a gynhaliwyd yn Bangkok, Gwlad Thai.

Yr Athro Neville Greaves yn annerch y Gyngres Ryngwladol ar Wydr a gynhaliwyd yn Bangkok, Gwlad Thai.

27 Hydref 2015

Mae grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr o Ewrop, Tsieina a Siapian, o dan arweiniad y ffisegydd o Brifysgol Aberystwyth, Yr Athro Neville Greaves, wedi darganfod dull newydd o weithgynhyrchu gwydr.

Gallai'r darganfyddiad arwain at gynhyrchu gwydrau pwrpasol a allai gael eu defnyddio mewn ffotoneg uwch, tra hefyd yn hwyluso cipio a chadw carbon ar raddfa ddiwydiannol.

Mewn papur sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn o fri, Nature Communications (Hybrid glasses from strong and fragile metal-organic framework liquids) mae’r tîm rhyngwladol yn adrodd sut y maent wedi llwyddo i ddefnyddio teulu cymharol newydd o ddeunyddiau mandyllog tebyg i sbwng i ddatblygu gwydrau cwbl newydd.

Drwy brosesu gofalus, gellir toddi’r deunyddiau mandyllog bregus yma cyn eu bod yn pydru ac yn llosgi.

Gellir siapio a chastio’r hylifau sy'n cael eu ffurfio ar y raddfa nano, a allai arwain at greu strwythurau solet sylweddol.

Cyflwynwyd y canlyniadau mewn sesiwn lawn o’r Gyngres Ryngwladol ar Wydr a gynhaliwyd yn Bangkok, Gwlad Thai, ym mis Medi gan yr  Athro Neville Greaves.

Esboniodd yr Athro Greaves: "Ar wahân i’r potensial diwydiannol, mae gwylio sut y mae deunyddiau mandyllog yn cael eu trawsnewid yn gam mawr ymlaen. Gyda’r darganfyddiadau hyn, rydym yn dechrau dysgu rheolau sylfaenol y ffordd y mae defnyddiau yn toddi. "

I François-Xavier Coudert, cemegydd ffisegol sy'n arbenigo mewn deunyddiau mandyllog yn CNRS yn Ffrainc, yr effaith posib ar gemeg sylfaenol yw’r diddordeb. "Mae gwneud fframwaith metel-organig fel hylifau, mae'n gyflwr hollol newydd o fater sydd ar gael i ni, ac yn ychwanegol at y deunydd solet traddodiadol."

Gan ddefnyddio'r offer yn Ffynhonnell Olau Diamond yn Swydd Rhydychen, cartref Cyflymydd Gronynnau Syncrotron y Deyrnas Gyfunol, roedd y tîm yn gallu craffu ar fframweithiau gwydrog rhain mewn manylder atomig.

Dywedodd yr Athro Trevor Rayment, y Cyfarwyddwr Gwyddorau Ffisegol y ganolfan: "Mae’r gwaith hwn yn enghraifft gyffrous o sut mae gweithio gydag ymbelydredd syncrotron, sy'n dyfnhau ein dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau gwydrau, hefyd yn rhoi rhagflas eithriadol o’r hyn y gellir ei wneud gyda’r deunyddiau newydd yma yn ymarferol.

"Gallai'r gwaith hwn gael effaith barhaol ar ddwy ffin gwybodaeth."

Cyllidwyd yr astudiaeth gan Brifysgol Technoleg Wuhan, Hubei, Tseina, lle mae’r Athro Greaves wedi’i benodi yn Wyddonydd Strategol a dyfarnwyd iddo grant o filiwn o bunnoedd i ddatblygu ffiseg gwydr.

AU34015