Swydd ymchwil gyda Caltech yn California i fyfyriwr o Aberystwyth

Nathan Thomas

Nathan Thomas

21 Rhagfyr 2015

Bydd Nathan Thomas, sydd wedi graddiodd mewn daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, yn dechrau swydd newydd gyffrous yn Caltech (California Institute of Technology) ar ddechrau Ionawr 2016.

Yn wreiddiol o Aberdâr yn Ne Cymru, mae Nathan newydd gwblhau PhD mewn Synhwyro o Bell ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n ymuno â Caltech yn Pasadena, California, fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol, a bydd yn gweithio i Jet Propulsion Laboratory (JPL) NASA.

Gan ddefnyddio delweddau lloeren o ddata a ddarparwyd gan Asiantaeth Ofod Siapan, mae Nathan wedi bod yn monitro newidiadau mewn corsydd a choedwigoedd mangrof ar draws y trofannau, ac yn 2014 treuliodd dri mis yn Caltech yn gwneud gwaith maes yn Ecuador.

Dywedodd Nathan: “Rwyf wedi cael profiadau gwych ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi gwneud y cam hwn i Caltech yn bosibl. Am ddau haf yn olynol, tra’n fyfyriwr israddedig, bûm yn ymweld â de’r Iorddonen gyda'r Athro John Grattan i gasglu samplau gwaddod ar gyfer astudiaeth i gynnwys metelau mewn safleoedd mwyndoddi copr o’r oes efydd, ac wrth gwrs, cefais gyfle i fynd ar daith maes ragorol i ymweld â rhewlifoedd a llosgfynyddoedd Seland Newydd. Fy ymweliad cyntaf â gwlad yr Iorddonen daniodd fy niddordeb mewn parhau gyda fy ngyrfa academaidd, ac ar ôl dim ond wythnos ar y cwrs Meistr Synhwyro o Bell, roeddwn yn gwybod taw dyma yr oeddwn am ei wneud.”

Ychwanegodd: “Mae Caltech yn un o'r prifysgolion gorau yn y byd ac rwyf wrth fy modd ym mod yn ymuno â'r grŵp synhwyro o bell yno ym mis Ionawr. Bu gweithio i un o'r sefydliadau uchaf ei safle yn y byd yn uchelgais i mi ers tro, ac wrth gwrs, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pawb ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Yn Caltech, bydd Nathan yn defnyddio data sy’n cael ei ddarparu gan gyfres o loerennau'r Asiantaeth Ofod Ewropaidd i fonitro newidiadau i gorsydd mangrof yng nghanolbarth a de America, ac Affrica.

“Mae corsydd mangrof yn ecosystemau pwysig sydd dan fygythiad, ac wedi colli dros draean o'u harwynebedd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf” meddai Nathan. “Maent yn storfa garbon o bwys, yn ffynhonnell bysgod a phren hanfodol i gymunedau lleol, yn darparu amddiffynfeydd rhag stormydd ac yn cynnal dros fil o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.”

Bydd Nathan yn adeiladu ar ei waith yn Aberystwyth yn Caltech, ac yn defnyddio meddalwedd a ddatblygwyd yn Aberystwyth.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw ar gyfer defnyddio technoleg delweddu lloeren a data mawr i fonitro newidiadau i'r amgylchedd naturiol, ac yn cyfuno hyn gydag awyrennau di-griw, awyrluniau a radar”, ychwanegodd Nathan. “Mae hyn, ynghyd â'r feddalwedd uwch a ddatblygwyd yma, wedi agor y drws i mi symud i Caltech.”

Dywedodd Dr Peter Bunting, Pennaeth Labordy Arsylwi’r Ddaear a Deinameg Ecosystemau, ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Nathan wedi bod yn fyfyriwr rhagorol drwy gydol ei amser yma yn Aberystwyth, ac wedi manteisio ar bob cyfle a ddaeth i’w ran. Drwy astudio Daearyddiaeth yn Aberystwyth mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd i gymryd rhan yng ngwaith ymchwil staff, gwobrau teithio a chyrsiau maes tramor. Mae Nathan yn enghraifft wych o rywun sydd wedi manteisio ar bob cyfle ddaeth i’w ran yn ystod ei amser yma yn Aberystwyth, megis y cyfle i weithio yn gyda Caltech NASA JPL yn ystod ei PhD ac sydd wedi arwain at ei swydd newydd.

“I ni yn y grŵp Arsylwi'r Ddaear a Deinameg Ecosystemau o fewn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, mae bob amser yn hynod braf gweld ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i wireddu eu breuddwydion ac yn parhau i fod yn weithgar mewn maes yr ydym wedi eu hyfforddi ar ei gyfer. Mae llawer o'n myfyrwyr MSc a PhD bellach yn gweithio ar draws y byd ym maes synhwyro o bell ac mae'n braf gweld Nathan yn parhau’r duedd hon.

“Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Nathan yn y blynyddoedd nesaf, cydweithio a fydd yn dwyn ffrwyth ac sydd yn ehangu ymhellach ein rhwydwaith o gysylltiadau academaidd ar draws y byd”, ychwanegodd.

Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, bu Nathan yn wirfoddolwr gyda'r RNLI ar y bad achub lleol am dair blynedd, a bu’n gweithio fel Llysgennad i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

AU39815