Penodi’r Athro John Grattan yn Is-Ganghellor Dros Dro

Yr Athro John Grattan

Yr Athro John Grattan

11 Ionawr 2016

Mae'r Athro John Grattan wedi'i benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro ar Brifysgol Aberystwyth yn dilyn proses recriwtio fewnol.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Grattan yn Ddirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb am Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol. Bydd yn ymgymryd â rôl yr Is-Ganghellor Dros Dro o'r 1af o Chwefror.

Mae penodiad yr Athro Grattan yn dilyn cyhoeddiad gan yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon yn Rhagfyr 2015 ei bod yn dymuno rhoi’r gorau i’w swydd fel Is-Ganghellor ar ddiwedd ei thymor o bum mlynedd yn y swydd ar 31 Gorffennaf 2016. Bydd yr Athro McMahon yn canolbwyntio ar agweddau allanol o rôl yr Is-Ganghellor rhwng y 1af o Chwefror a’r 31ain o Orffennaf.

Mae’r Athro Grattan yn raddedig o Brifysgol Manceinion (Daearyddiaeth ac Archaeoleg), a derbyniodd Ddoethuriaeth o Brifysgol Sheffield lle’r astudiodd effaith echdoriadau folcanig yng Ngwlad yr Iâ ar gymunedau hynafol yng ngogledd a gorllewin Prydain.

Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel darlithydd yn 1995, ac ers hynny cyflawnodd nifer o swyddi arweinyddol mewnol allweddol, gan gynnwys Deon Cyfadran y Gwyddorau, cyn ei benodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2012.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Grattan yn Gadeirydd Grŵp Gweithredu Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru, yn aelod o fwrdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), yn Gynrychiolydd Cenedlaethol ar y Grŵp Strategaeth Gwybodaeth Gyhoeddus Addysg Uwch, ac yn aelod o SAGE - Cyngor Gwyddonol i'r Llywodraeth mewn Argyfyngau.

Yn ystod 2015 cafodd ei benodi i Grŵp Cynghori Arbenigol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar Ddylunio a Gweithredu Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu,  Pwyllgor Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar Ganlyniadau a Chyflawniadau Myfyrwyr, a bwrdd Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Canghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy'n croesawu penodiad yr Athro Grattan gan Gyngor y Brifysgol i rôl yr Is-Ganghellor Dros Dro, ac mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gydag ef.”

Dywedodd yr Athro John Grattan: “Mae'n fraint i mi gael fy mhenodi i rôl yr Is-Ganghellor Dros Dro ar Brifysgol Aberystwyth ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon dros y misoedd nesaf i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud yn ystod ei chyfnod yma.

"Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau ymchwil ac addysgu newydd a phreswylfeydd myfyrwyr, gwaith sy'n hanfodol i lwyddiant y Brifysgol a'r economi leol. Mae'r Brifysgol yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ansawdd ei haddysgu a’i hymchwil, ac am y profiad myfyrwyr, a bydd 2016 yn flwyddyn ar gyfer adeiladu ar y rhain mewn marchnad recriwtio sy’n fwyfwy cystadleuol.”

Bydd yr Athro Grattan yn cyflawni rôl yr Is-Ganghellor Dros Dro hyd nes y bydd Is-Ganghellor newydd yn cymryd at y swydd. Bydd proses recriwtio allanol i benodi i'r rôl hon yn dechrau maes o law.

AU0616