Cyfle i glywed mwy am y cynlluniau i ailddatblygu’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

19 Ionawr 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau 21 Ionawr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer ailddatblygu'r Hen Goleg.

Ym mis Rhagfyr 2015, cyflwynodd y Brifysgol ei chynlluniau ar gyfer ailddatblygu'r Hen Goleg i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Cafodd y cais am  £9.93m tuag at gostau llawn y prosiect gwerth £19.47m ei ddatblygu gan y Brifysgol ynghyd â'r Bwrdd Prosiect Bywyd Newydd i Hen Goleg, a oedd yn cynnwys aelodau o Gyngor y Brifysgol, staff y Brifysgol, a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberystwyth, Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth a Chymdeithas y Cyn Fyfyrwyr.

Fe'i codwyd yn wreiddiol fel gwesty, a chroesawodd yr Hen Goleg y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn 1872 yn dilyn ymgyrch codi arian aruthrol ledled Cymru i brynu'r adeilad a sefydlu Prifysgol gyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Mae’r Hen Goleg yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn cael ei gydnabod fel un o adeiladau mwyaf arwyddocaol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Deyrnas Gyfunol, yn yr arddull adfywiad Gothig.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys adfer yr adeilad i'w hen ogoniant, a’i drawsnewid yn ganolfan ffyniannus ar gyfer treftadaeth, dysgu a menter ar gyfer y Brifysgol a’r dref, gan ddenu cynulleidfa ledled Cymru a thu hwnt. 

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer pen-blwydd 150 oed y Brifysgol yn 2022.

Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Mae gwaith Bwrdd Prosiect Bywyd Newydd i Hen Goleg wedi derbyn mewnbwn y gymuned leol ac rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb a gafwyd yn y gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhaliwyd fel rhan o'r broses o ddatblygu’r cynlluniau cyffrous hyn. Mae'r rhain wedi ein helpu i nodi anghenion a chyfleoedd ar gyfer ail-lunio’r adeilad, a llywio ein penderfyniad i agor dros 75% ohono i'r cyhoedd ynghyd â chyfleusterau addysgu a chymorth i fyfyrwyr. Rydym am annog perthynas agosach rhwng y Brifysgol a’r dref a darparu cyfleuster gwych i arddangos cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter a fydd yn ysbrydoli a rhoi hwb i'r economi."

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Iau 21 Ionawr, 2016 o 17.30 yn yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth. Croeso i bawb – does dim angen cadw lle o flaen llaw.

Dyma fydd yr olaf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus sydd wedi eu cynnal fel rhan o'r ymgynghoriad cychwynnol cyn ymweliad asesiad terfynol gan yr HLF ym mis Mawrth 2016.

Cynhelir ymgynghoriad pellach unwaith y bydd canlyniad cais Treftadaeth y Loteri yn hysbys, yn ystod gwanwyn 2016.

O dan y cynigion, bydd yr Hen Goleg 'newydd' yn gartref i:

• Brofiad ymwelwyr sy'n dehongli casgliadau ac archifau treftadaeth y Brifysgol trwy arddangosfeydd, gweithgareddau a digwyddiadau, celf, cherddoriaeth a pherfformiad ac yn gweithredu fel cyfnewidfa gwybodaeth a chanolbwynt dysgu ar gyfer y Brifysgol, ysgolion, y gymuned ac ymwelwyr. Byddwn yn cydweithio â'r gymuned leol, a chyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol, fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Ceredigion ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, ar arddangosfeydd ac ar ŵyl wyddonol, treftadaeth a diddordeb artistig. Byddwn yn canolbwyntio'n arbennig ar bobl ifanc a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol yn yr amgylchedd hwn;

• Ystafelloedd y gellir eu cadw a phecynnau lletygarwch hyblyg ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus/preifat yn ystod y dydd a gyda'r nos, digwyddiadau, perfformiadau a chynadleddau;

• Gofod i’w logi ar gyfer entrepreneuriaid ifanc, artistiaid a chwmnïau cychwyn busnes yn y gymuned a'r Brifysgol;

• Gofod gwneud gyda chyfleusterau da i alluogi myfyrwyr a'r gymuned ehangach i ymgysylltu'n llawn â'r mudiad gwneuthurwr sy’n dod yn fwyfwy amlwg;

• Mannau astudio/addysgu hyblyg i fentrau rhyngddisgyblaethol, megis dysgu a sgiliau i gefnogi ceiswyr gwaith i gael gwaith, a chanolfan ar gyfer Cymraeg i Oedolion ranbarthol;

 • Cyfleusterau cefnogi a lles myfyrwyr gan gynnwys Canolfan y Brifysgol ar gyfer Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol;

• Arlwyo, lletygarwch a chyfleuster manwerthu ar gyfer myfyrwyr, y gymuned, ymwelwyr a digwyddiadau, gan ganolbwyntio ar gynnyrch lleol a Chymreig.

AU0716