Academydd o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr am ysgolheictod ffeministaidd

Chwith i’r Dde:  Tri enillydd y wobr, Hannah Littlecott, Sarah Wydall a Melanie Morgan, gyda Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt.

Chwith i’r Dde: Tri enillydd y wobr, Hannah Littlecott, Sarah Wydall a Melanie Morgan, gyda Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt.

05 Mai 2016

Mae Sarah Wydall o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn un o dri ysgolhaig benywaidd sydd wedi ennill un o Wobrau Coffa Audrey Jones am Ysgolheictod Ffeministaidd.

Cyflwynir y gwobrau ymchwil blynyddol newydd hyn er cof am Gymraes a ymgyrchodd dros hawliau menywod ledled y byd.

Cyflwynwyd y wobr i Sarah Wydall, sy’n gweithio yn y Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeulustod yn y Brifysgol, am ei gwaith ar ‘Dewis’, sef prosiect Loteri Fawr sy’n canolbwyntio ar faterion cyfiawnder a cham-drin pobl hŷn. Mae’r prosiect tair blynedd a hanner hwn, sy’n rhedeg tan 2018, yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau cenedlaethol megis Age Cymru, Hafan Cymru a Chymorth i Ferched Cymru.

Cyflwynwyd Gwobrau Coffa Audrey Jones am Ysgolheictod Ffeministaidd gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, yng nghynhadledd flynyddol Cynulliad Merched Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Sadwrn 30 Ebrill 2016.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Sarah: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y Wobr Goffa hon. Bu’n bleser cael cyflwyno fy ymchwil yng Nghynhadledd Flynyddol Cynulliad Merched Cymru. Roedd Audrey Jones yn fenyw ysbrydoledig ac mae’n gryn anrhydedd cael bod yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn y wobr.”

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Jane Hutt, sy’n aelod hir-sefydlog o Gynulliad Merched Cymru: “Brwydrodd Audrey Jones yn ddiflino dros hawliau menywod a byddai wedi bod wrth ei bodd â’r ysgolheictod cadarn a amlygwyd yma heddiw er cof amdani.”

Bu Audrey Jones yn cynrychioli Cymru ar Gyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, gan gyfrannu at ymgynghoriadau a thrafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ynglŷn â hawliau menywod ar draws y byd. Bu farw yn 2014 yn 84 oed. Hyd nes iddi ymddeol yn 1990 bu’n ddirprwy bennaeth ar Ysgol Gyfun Sant Cyres ym Mhenarth, lle y bu’n dysgu ers 1960.

Gofynnodd Jane Hutt hefyd am gopïau o’r ymchwil fel bod modd iddi eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd Cynulliad Merched Cymru, Dr Jackie Jones: “Rydym wrth ein bodd bod Jane Hutt yn awyddus i rannu gwaith enillwyr ein gwobrau newydd â Llywodraeth Cymru. Ein gobaith yw y bydd y gwobrau newydd hyn yn rhoi cyfle i fenywod godi materion pwysig a allai, yn y pen draw, lywio ac ategu polisïau yng Nghymru yn y dyfodol.”

Dywedodd trefnydd cynhadledd Cynulliad Merched Cymru, Dr Jane Salisbury: “Roedd Audrey bob amser yn awyddus i glywed am ymchwil fy myfyrwyr. Roedd hi’n hynod rwystredig bod llawer gormod o ganfyddiadau ymchwil yn aros mewn traethodau estynedig a thraethodau ymchwil, lle mai dim ond ychydig o bobl freintiedig sy’n gallu cyrraedd atynt. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi darparu llwyfan newydd i ysgolheigion benywaidd rannu eu gwaith a’u syniadau.”

Cyflwynwyd Gwobrau Coffa Audrey Jones am Ysgolheictod Ffeministaidd 2016 i:

  • Undertaking transformative research with victim-survivors of elder abuse: A story of feminist praxis in Wales. Prosiect Dewis/Choice. Sarah Wydall, Prifysgol Aberystwyth.
  • Breakfast and Brains: Implications for girls in Wales. Hannah Littlecott, Prifysgol Caerdydd.
  • Class, Motherhood and Mature Studentship - (Re)Constructing and (Re)Negotiating Subjectivity. Melanie Morgan, Prifysgol Caerdydd

AU15116