Beth ddigwyddodd a pham? Golwg yn ôl ar etholiad y Cynulliad 2016

24 Mai 2016

Cafwyd sawl canlyniad annisgwyl yn Etholiad y Cynulliad diweddar, yn arbennig felly Leanne Wood o Blaid Cymru yn cipio sedd Leighton Andrews o’r Blaid Lafur yn y Rhondda. Roedd hi hefyd yn ddigwyddiad hanesyddol gydag UKIP yn sicrhau ei Aelodau Cynulliad cyntaf a nifer y Democratiaid Rhyddfrydol yn gostwng i un aelod, er ei bod bellach wedi sicrhau lle yn y Cabinet.

Roedd yr Athro Roger Scully yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu yn ystod cyfnod yr etholiad gyda'i bolau craff a rhagolygon gwleidyddol a bydd yn rhannu ei syniadau ar y digwyddiadau diweddar mewn seminar ym Mhrifysgol Aberystwyth prynhawn dydd Iau yma (26 Mai).

Teitl y seminar yw “The 2016 election: What Happened and Why”, a bydd yr Athro Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn myfyrio ar gywirdeb y polau cyn yr etholiad, sut cafwyd y cyfansoddiad presennol yn y Cynullaid ar sail y patrymau pleidleisio a beth o bosib fydd effaith hirdymor y Cynulliad newydd hwn.

Yn ôl Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, bydd y seminar yn gyfle i bwyso a mesur ar ôl yr etholiad: ‘I nifer o arsylwyr bydd y tymor Cynulliad hwn yn hanfodol i’r wlad wrth i Fesur Cymru newydd gael ei roi ar waith; gellid gweld pwerau codi trethi a gallai'r potensial o adael Ewrop effeithio ar ein modelau cyllid yn y dyfodol’.

‘Mae'n bwysig felly deall yr hyn a ddigwyddodd ar y 5ed o Mai a sut mae'r Cynulliad yn debygol o lywodraethu dros y pum mlynedd nesaf ar faterion a fydd yn effeithio ar bob un ohonom.’

Mae Roger Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ac mae’n gyn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y seminar ar ddydd Iau, 26 o Mai am 5 o’r gloch yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe’I cynhelir ar y cyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a changen Bae Ceredigion o’r Sefydliad Materion Cymreig

AU17416